Dwi’n ddigon hen i gofio pan gawsom ein difetha’n rhacs gan ddrama newydd yn gyson ar S4C. Yn y nawdegau, roedd gennych chi’r rhai arferol am 9 o’r gloch nos Sul ac yn slot nos Fercher hefyd, ar ben Pobol y Cwm bum noson yr wythnos. Bellach, mae llai o ddewis a dipyn llai o arian yn y coffrau, dim diolch i doriadau llym Adran DCMS San Steffan a diflaniad cronfa greadigol yr Undeb Ewropeaidd am resymau poenus – a chostau cynhyrchu drutach nag erioed ers pandemica.

Meddai Adroddiad Blynyddol diweddaraf S4C:

…Rydym yn gwybod bod cost gwneud rhaglenni yn cynyddu, gyda gwariant byd-eang ar rai genres – yn enwedig drama wedi’i sgriptio – yn codi i lefelau digynsail. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau’r dyfodol wrth i ni gystadlu am dalent ar a thu ôl i’r sgrin. Mae tueddiadau diweddar yn y diwydiannau creadigol hefyd wedi cael effeithiau chwyddiant ar gostau cynhyrchu (t.16).

Dyw’r arlwy diweddaraf heb daro tant personol, o odrwydd Pren ar y Bryn i’r ddrama iechyd meddwl Creisus. Chwaeth, hwnna ydi o. Ond mi gawson ni rai da, ac mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn cynnig blas o’r hyn sydd i ddod. Mwy o ddramatics carchar y Gogs yn Bariau wedi’r un gyntaf hynod lwyddiannus, a rhagor o giamocs y Cofis yn Stad. Mae drama newydd sbon Ar y Ffin am fyd gwaith a charwriaethol ynad heddwch yng Nghasnewydd ar y gweill hefyd. Gydag Erin Richards (o sioe blant Mosgito i Gotham Fox TV) yn y brif ran fel Claire Lewis Jones, mi fydd hi’n ddifyr gweld sut lwyddan nhw i bortreadu’r cymysgedd ieithyddol mor realistig â phosib, mewn cornel go ddieithr o’r wlad ar deledu Cymraeg.

Rhan newydd arall o’r wlad fydd ar ein sgriniau cyn hir yw Doc Penfro, yng nghyfres dditectif Cleddau. Ac mi ges i’r fraint o weld y dangosiad cyntaf yn sinema Chapter Caerdydd, gafodd ei drefnu gan BAFTA Cymru ac S4C. Marwolaeth nyrs ifanc sy’n sbarduno popeth, ac awgrym bod llofrudd copycat wrthi, gan ddeffro hen ofnau yn y dref arfordirol a gorfodi cyn-gariadon i weithio efo’i gilydd eto. Richard Harrington sy’n portreadu un ohonyn nhw – a na, peidiwch â meiddio sôn am DS Tom Mathias o’r gyfres Cardi Noir enwog honno. Roedd yr un hen wynebau’n ymddangos yng nghyfresi ditectifs y Daniaid hefyd, ond diawcs, mae teitl agoriadol Cleddau hyd yn oed yn swnio ac yn edrych yn debyg i Y Gwyll (2013-16). Ond lle’r oedd cyfres Aber a Craith yn ymdrybaeddu mewn digalondid, o gapeli gwag i dyddynnod o’r 1950au, mae yna fflachiadau o hiwmor yn hon – diolch i’r golygfeydd teuluol, a’r chwithdod hwnnw rhwng DS Rick Sheldon (Harrington) a DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) sy’n anfoddog-ddychwelyd i fro ei mebyd. Mi fydd y gynulleidfa’n amau ‘hawdd cynnau tân?’ wrth wylio’r ddau gyda’i gilydd, ac mae’r cast ategol o Rhian Blythe i Ioan Hefin ac Eiry Thomas yn rhagorol. Ac mae cyfarwyddo crefftus Siôn Ifan yn sicrhau ein bod ar fin ein seddau, rhwng rhywun yn llercian y strydoedd gefn liw nos i sgrialu ar ôl dihirod ar erchwyn rhyw glogwyn neu’i gilydd.

Mae’r gorffennol yn gysgod parhaus dros yr ardal a’i thrigolion, fel yr esboniodd yr awdur Catherine Tregenna. Mae ganddi bedigri sgwennu helaeth, o Pris y Farchnad S4C i gyfresi trosedd poblogaidd ITV fel Lewis a DCI Banks a’m ffefryn diweddar innau Three Pines o Québec ar Amazon Prime. Mi fuasai’n braf meddwl am S4C yn allforio Cleddau, gydag isdeitlau ar y sgrin, dros Glawdd Offa, i Ewrop a thu hwnt. Ond na. Mae’r busnes bac-tw-bac yn parhau, a fersiwn Saesneg The One that Got Away wedi’i ffilmio hefyd, yn union fel Mudtown uchod o Gasnewydd. Rhaid dal i ofyn pam, o gofio bod gwylwyr BBC Four yn hen lawiau ar ddramâu isdeitlog bellach, Almaenwyr yn trosleisio cyfresi Eingl-Americanaidd i’r Almaeneg, a Netflix eisoes wedi prynu drama Gymraeg yn Dal y Mellt.

Am y tro, caewch y cyrtans, llenwch wydryn a swatio ar y soffa ar nos Sul, Hydref 13. Achos mae Cleddau yn dangos digon o addewid i bara mwy nag un gyfres.