I ddathlu Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref, mae Golwg360 wedi bod yn holi rhai o wynebau adnabyddus y sin gerddoriaeth yng Nghymru am eu hoff ganeuon. Y tro yma, y cerddor Lleuwen sy’n ateb cwestiynau Golwg360. Mae hi’n dod o bentref Rhiwlas ger Bangor yn wreiddiol a bellach yn byw yn Llydaw…

Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Albym Bolmynydd gan Pys Melyn. Da chi’n medru clywed yr hwyl mae’r band wedi ei gael yn y stiwdio. Maen nhw wedi dal hynny yn y recordiad.  Mae ‘na ddireidi ac ma’r albym mewn byd cerddorol ei hun.

Mae Tydi a Wnaeth y Wyrth ar dôn Pantyfedwen yn gwneud imi godi hefyd. Mae’r alaw yn ffitio’n berffaith efo’r geiriau “mae’r haleliwia yn fy enaid i” nes bod y rhan yna yn dod a chroen gŵydd bob tro. Priodas berffaith rhwng alaw a geiriau. A chwip o lyrics. Be well?Dw i’n hynod o hapus wrth wrando ar Cool Head hefyd, sef albym newydd Georgia Ruth. Dw i’n meddwl mai dyma’r albym orau iddi ei gwneud a dw i’n teimlo mor falch ohoni a’r gwaith gwych mae hi’n parhau i’w wneud yn gyson.

Lleuwen

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Sawl un am sawl rheswm gwahanol. Chwilio dy Debyg gan Huw Chiswell am ei bod (fel llawer o’i ganeuon) yn swnio mor wir. Ffenest gan Cowbois Rhos Botwnnog achos y delweddau. Aderyn gan Casi Wyn am fod ei llais mor dlws. Albym Hit Me Hard and Soft gan Billie Eilish am fod y dynamics mor eithafol.

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Birdland gan Weather Report pan dw i’n dawnsio ar fy mhen fy hun a Space Invaders gan Injaroc efo fy mhlant.

Os oeddech chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi a pham? The Best of Claude Debussy.

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

Dw i ddim yn dyheu am fod wedi sgwennu caneuon pobl eraill a bod yn onest…well gen i chwilio am ganeuon fy hun.  Dw i’n licio clywed iaith a geirfa unigolion yn eu caneuon. Mae’n braf clywed eu personoliaethau a’u ffordd o drin iaith; y ffordd mae llafariaid yn swnio yn eu ceg ac yn y blaen. Mae clywed cymeriad y cyfansoddwr yn rhan o hyfrydwch dod i nabod cân.


Gwyl Lleisiau Eraill Aberteifi
Llun: @Stuart Ladd

Bydd 5ed ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei chynnal yn y dref dros benwythnos 31 Hydref a 2 Tachwedd.

Bydd dros 80 o setiau byw mewn lleoliadau ar draws Aberteifi, o hip-hop i werin, roc i R&B, a phopeth yn y canol.

Rhai o’r artistiaid o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Y Llwybr Cerdd yw Cynefin, Lleuwen, Melin Melyn, Mr Phormula, Sage Todz, Tara Bandito, a The Gentle Good, ynghyd a llu o artistiaid eraill.

Mae’r sesiynau Clebran yn dychwelyd i Theatr Mwldan, lle bydd siaradwyr blaenllaw yn dod ynghyd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau newydd ar rai o faterion mawr y dydd. Yn eu plith mae Carwyn Graves, Carys Eleri, Delyth Jewell, Lowri Cunnington Wynn, Laura McAllister, Noel Mooney, a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost.

Elfen newydd i’r ŵyl eleni yw ‘Clebran ar y Llwybr’ sef cyfres o sgyrsiau agos-atoch gyda rhai o artistiaid Y Llwybr Cerdd a fydd yn digwydd yng Nghapel a Festri Bethania. Bydd y cerddor Lleuwen yn siarad â’r cerddor a’r cyflwynydd radio Georgia Ruth yn un o’r sgyrsiau hyn ac, wythnos nesaf, Lleuwen fydd yn ateb cwestiynau Golwg360 am ei hoff ganeuon.

Am fanylion llawn am yr ŵyl ewch i https://www.othervoices.ie/events/other-voices-cardigan-2024