Mae rhai o gerddorion Opera Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu eu bod am weithredu’n ddiwydiannol ar ddiwedd y mis.

Wedi pleidlais yr wythnos hon, bydd aelodau’r corws yn gweithredu’n fyr o streic ar o Fedi 21.

Dyma egluro rhesymau’r cerddorion dros eu penderfyniad, a’u gofynion…

 

Pwy yw corws yr Opera Cenedlaethol?

30 aelod llawn amser ensemble corawl yr Opera Cenedlaethol yw’r corws. Nhw sydd yn perfformio yng ngefndir y rhan fwyaf o berfformiadau’r Opera Cenedlaethol.

Yn ôl eu gwefan swyddogol, y corws, yn ogystal â’r gerddorfa, ydy “asgwrn cefn cerddorol ac artistig” Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r rhan fwyaf o aelodau wedi bod yn rhan o’r ensemble ers dros ddegawd.

Maen nhw i gyd yn perthyn i undeb celfyddydau ac adloniant Equity, ac felly mae disgwyl i bob un ohonyn nhw weithredu’n ddiwydiannol gyda’i gilydd.

Pam fod aelodau’r corws wedi bod yn galw am wedithredu’n ddiwydiannol?

Yn ôl yr undeb Equity, mae aelodau’r corws yn wynebu o leiaf 15% o doriad i’w cyflogau, gostyngiad yn nifer eu horiau cytundebol – er gwaethaf llwyth gwaith uchel – a chwtogi nifer aelodau’r corws.

Yn ogystal, maen nhw’n honni bod diffyg adnoddau’n peri gofid eisoes, ac mai dim ond gwaethygu pethau fydd diswyddiadau gorfodol.

Yn ôl arolwg Equity ym mis Mai, mae bron i 76% o’r corws yn honni y bydd y cynigion yn cael effaith sylweddol neu fawr ar eu cyllid personol. Mae 78% yn awgrymu y byddai’n rhaid iddyn nhw adael Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae 56% yn credu y byddai’n rhaid iddyn nhw adael y diwydiant yn gyfangwbl.

Daw’r penderfyniad hefyd wedi i aelodau cerddorfa’r Opera Cenedlaethol bleidleisio o blaid streicio ym mis Gorffennaf, yn wyneb toriadau tebyg. Yn ogystal, mae pryderon am y diwydiant cerddorol ehangach yn ne Cymru, wedi’r bygythiad o gau adran iau’r Coleg Cerdd a Drama a chau Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd hefyd.

Beth ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf?

Pleidleisiodd 93% o aelodau’r corws o blaid gweithredu’n ddiwydiannol a gweithredu’n fyr o streic.

Beth yw gofynion y weithred ddiwydiannol?

Yn ogystal â gwrthwynebu’r toriadau, mi fydd y cerddorion yn galw ar eu rheolwyr, ynghyd â’r Cyngor Celfyddydau yng Nghymru ac yn Lloegr, i gadw Opera Cenedlaethol Cymru fel cwmni llawn amser. Bydd hefyd gofyn am becyn ariannu cynaliadwy er mwyn sicrhau gallu’r cwmni i deithio yn y dyfodol.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gweithredu’n fyr o streic a streicio, a sut fydd yr aelodau’n cynnal y weithred?

Gweithredu’n fyr o streicio ydy’r enw ar unrhyw weithred ddiwydiannol nad yw’n cynnwys gwrthod gweithio. Gallai hyn olygu gweithio yn ôl y rheolau’n unig a dim mwy, arafu cyfraddau gwaith, neu wrthod gwneud tasgau penodol.

Bwriad aelodau’r corws ydy dosbarthu pamffledi i aelodau’r gynulleidfa ar eu ffordd i berfformiad agoriadol cynhyrchiad Rigoletto ar Fedi 21. Yn ogystal, byddan nhw’n gwisgo crysau T yn hyrwyddo’r ymgyrch, yn hytrach na’u gwisgoedd cyngerdd arferol, yn ystod y perfformiad.

Sut mae’r cyhoedd a rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru wedi ymateb?

Yn ôl llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru, mae’r cwmni’n “siomedig” mai cynulleidfaoedd fydd yn dioddef yn sgil y weithred. Maen nhw’n ymrwymo i ddarganfod datrysiad fydd yn gweddu aelodau’r corws, tra’n cydnabod gwir sefyllfa ariannol yr Opera Cenedlaethol wedi toriadau ariannu cyhoeddus.

Yn ôl yr undeb Equity, mae dros 11,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn mynnu amddiffyn yr Opera Cenedlaethol rhag toriadau pellach.