Digwydd bod, yn ddiweddar, fe drodd un ymadrodd bach cyffredin yn dân ar fy nghroen; mae clywed yr ymadrodd hwn yn suro llaeth fy nydd. Pa ymadrodd?

Fel mae pawb yn gwybod…

Fel mae pawb yn gwybod, eiddo Sherlock Holmes yw’r geiriau ‘Elementary, my dear Watson’.

Na. Y Sherlockiaid sydd yn gwybod orau! Palwch eich ffordd trwy’r llyfrau i gyd, bob un wàn jac, ac fe welwch na fu i’r ditectif enwog ddweud y fath beth erioed. Cafodd yr ymadrodd ei ddefnyddio mewn ffilm, The Return of Sherlock Holmes, yn 1929.

Fel mae pawb yn gwybod, aeth yr anifeiliaid at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw.

Na! Cafodd Noa orchymyn i gymeryd gydag ef saith pâr o’r holl anifeiliaid glân. I’r rheini ohonoch sydd yn cîn, neu’n amau, wele dystiolaeth:

Cymer gyda thi saith bâr o’r holl anifeiliaid glân, y gwryw a’i gymar; a phâr o’r anifeiliaid nad ydynt lân, y gwryw a’i gymar…

(Genesis 7:2)

My, my, my Delilah / Why, why, why Delilah… Fel mae pawb yn gwybod, Delila dorrodd wallt Samson a dwyn ei nerth rhagddo.

Na! Suo Samson i gysgu wnaeth Delila, a galw am farbwr i eillio saith cudyn ei ben. Tystiolaeth? Och! Chwi o ychydig ffydd!

“Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben.”

(Barnwyr 16:19)

Fel mae pawb yn gwybod, dim ond sliper wydr oedd yn weddill o Cinderella wedi i’r cloc daro deuddeg.

Na! Sliperi ffwr carlwm (ermine) – oedd gan Cindy ar ei thraed y noson honno. Fe wnaeth cyfieithydd yn yr ail ganrif ar bymtheg ddrysu rhwng dau gymal Ffrengig sy’n debyg iawn i’w gilydd – pantoufle de vair (sliper ffwr) a pantoufle de verre (sliper wydr).

Fel mae pawb yn gwybod, mae menywod yn yrwyr gwael.

Fel mae pawb yn gwybod, mae’r Albanwyr yn fên.

Fel mae pawb yn gwybod, meddwon yw’r Gwyddelod.

Fel mae pawb yn gwybod, mae’r Sais yn sych syber.

Fel mae pawb yn gwybod, mae gan bob Cymro hoffter tawel am ddefaid.

Fel mae pawb y gwybod, mae Cristnogion yn rhagrithiol, Iddewon yn ariangar, a Mwslimiaid yn derfysgol.

Dylai pawb wybod fod angen amau – ac amau’n fawr a chyson – y person sydd yn fodlon dechrau brawddeg gyda’r datganiad peryglus: Fel mae pawb yn gwybod…!