Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd digwyddiad yn y Senedd ar Fedi 26 i ddathlu arwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru.

Bydd rhai o sêr Gemau’r haf yn bresennol, a bydd croeso i’r cyhoedd ymuno yn y dathliadau, wrth i “athletwyr Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gael croeso adref fel arwyr yn y Senedd ym Mae Caerdydd”.

Ymhlith y gwesteion fuodd yn y Gemau Olympaidd eleni mae’r seren gymnasteg Ruby Jones, y chwaraewraig hoci Sarah Jones, a’r rhwyfwr Matt Aldridge.

Mae’r pencampwr taekwando Matt Bush a’r chwaraewr tenis bwrdd Paul Karabardak ymhlith y sêr Paralympaidd fydd yn y digwyddiad, fydd yn cychwyn gyda derbyniad yn Neuadd y Senedd.

Y Prif Weinidog Eluned Morgan a’r Llywydd Elin Jones fydd yn cynrychioli’r Senedd.

Wedi hynny, bydd cyfle tu allan i’r adeilad i fwynhau adloniant cerddorol gan Academi Celfyddydau Perfformio Caerdydd a’r grŵp eclectig Wonderbrass.

Bydd uchafbwyntiau’r Gemau’n cael eu dangos ar y sgrîn fawr cyn i’r cyflwynydd Jason Mohammad gynnal sesiwn holi ac ateb cyhoeddus gydag athletwyr a hyfforddwyr ar risiau’r Senedd.

‘Braint’

“Mae’n fraint croesawu’r athletwyr a’r hyfforddwyr i’r Senedd i ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymdrechion arbennig ar y maes chwarae,” meddai Elin Jones.

“Mae’r perfformiadau anhygoel yn Paris yn ein gwneud ni i gyd yn falch o fod yn Gymry, ac rwy’n siŵr y bydd llawer o bobol eisiau ymuno â ni yn y Senedd yn ddiweddarach y mis hwn i ddathlu eu llwyddiant.”

Ychwanega’r Prif Weinidog Eluned Morgan fod “y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf hwn unwaith eto wedi rhoi llwyfan i athletwyr Cymru ddisgleirio ar y llwyfan mwyaf”.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein hathletwyr, a wnaeth mor dda yn Paris, yn ôl i Gymru am deyrnged deilwng yn dilyn eu perfformiadau arwrol!” meddai.

Bydd croeso i’r cyhoedd ymgynnull y tu allan i’r Senedd am 5:30yh, ac fe fydd y digwyddiad yn para tan 6:40yh.