Yn yr wythnos pan lwyddodd Seintiau Newydd Tref Croesoswallt a Llansantffraid i sicrhau gemau Ewropeaidd yn erbyn Fiorentina, Djurgarden, Astana, Shamrock Rovers, Panathinaikos a Celje, roeddwn i wedi galw draw i Lansanffraid, Ceredigion.
Yno, ar Gaeau Chwarae Morfa Esgob, mae Clwb Pêl-droed Llanon yn chwarae yn eu gemau cartref, a hon oedd eu gêm gyntaf o’r tymor yn Adran 3 Cynghrair Costcutters Ceredigion – a hynny yn erbyn ail dîm Tregaron Turfs.
Mae’r cae yn drawiadol gan ei fod ar gyrion lleiniau – ‘darn hirgul o dir’, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru – sy’n arwain at y môr ac sydd, yn ôl rhai, yn mynd ’nôl i’r canol oesoedd a thu hwnt! Mae’n werth i chi fynd am dro ar y llain gafodd ei rhoi’n rhodd i’r gymuned gan Margot James er cof am ei rhieni, ‘sef hen deulu Rhoslan’. Mae yno gwt bach i ‘fochel rhag y glaw neu i synfyfyrio ar donnau’r môr pan fydd hindda.
Dw i’n cofio gwylio Llanilar yn chwarae ar y llain sawl blwyddyn yn ôl, a minnau’n wlyb at fy nghroen ac yn rhynnu yn yr oerfel. Ond y tro yma, roedd hi’n heulwen braf er bod awel gref yn troelli uwchben. Diolch byth am hynny – does dim to ar yr eisteddle!
Yn y gêm honno yn y glaw, roedd gôl-geidwad Llanilar wedi gosod camera ar drawst yr eisteddle i ffilmio’r 90 munud – dw i ddim yn cofio ei enw, ond ‘Buffon’ roedd pawb yn ei alw gan ei fod yn dod o’r Eidal. Y syniad oedd y byddai’n gallu gosod ei brofiad o chwarae i’r clwb ar gof a chadw cyn iddo ddychwelyd i’w famwlad! Roedd y gwynt o’r môr mor gryf fel na chafwyd mwy nag ambell ddelwedd sigledig rhwng crynu’r camera a diferion y glaw!
Roedd y gêm rhwng Llanon a Thregaron yn ddigon agos yn yr hanner awr cyntaf, er bod Ioan Llwyd yn fygythiad cyson ar yr asgell chwith i’r ymwelwyr. Yn wir, dyna o ble daeth gôl gynta’r gêm wrth iddo glipio’r bêl dros ben Lewis Tomlins, gôl-geidwad Llanon, wedi 27 munud. Mae ‘Tommo’ yn brofiadol iawn rhwng y pyst – a dyna’r unig dro iddo gael ei guro weddill y prynhawn!
Yn y gôl arall, roedd Gareth Lloyd Davies yn chwarae ei gêm gyntaf ar lefel oedolion ac yntau’n 16 mlwydd oed! Yn gefn iddo yn yr amddiffyn roedd Paul Otway, sy’n 61 mlwydd oed ac oedd wedi chwarae 90 munud arall ar y dydd canlynol – i Swansea Vets 60s! O ble mae’r dyn yn cael ei nerth a’i ddycnwch, d’wedwch?
O fewn dim i fynd ar ei ôl hi, roedd Llanon yn gyfartal gydag ergyd gadarn Tegid Owen (32 munud) yn mynd dros gôl-geidwad yr ymwelwyr, wedi iddo dderbyn y bêl gan Jack Davies – roedd cyfle ar yr egwyl i mi grwydro draw tuag at y traeth cyn rhuthro’n ôl ar gyfer yr ail hanner.
Thomas Rees-Jones (51 munud) sgoriodd yr ail i’r tîm cartref, ac roedd rhywun yn teimlo, wrth iddyn nhw wthio ymlaen, fod mwy o goliau i ddod. Ond nid fel’na fuodd hi; cadwodd Tregaron yn gadarn yn y cefn, ac yn wir daeth cyfleoedd hwyr gyda chic gornel fygythiol a’r bêl hefyd yn taro’r bar.
Dechrau da i’r tymor, ac yn sicr byddwn yn gweld un neu ddau o chwaraewyr ifainc Tregaron yn y tîm cyntaf ryw ddydd!