Mae gêm gyntaf Craig Bellamy yn rheolwr ar dîm pêl-droed Cymru wedi gorffen yn gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd yn rhaid iddyn nhw fodloni ar bwynt, felly, wrth agor eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd cyn wynebu Montenegro ymhen tridiau.

Roedd y gêm heno’n gyfle i gofio George Baker, Terry Medwin a Leighton James gyda munud o gymeradwyaeth cyn y gic gyntaf.

Roedd addewid o ddull newydd o chwarae pan ddeuai’r chwiban i ddechrau’r ornest a’r ymgyrch, a chymerodd hi ddim yn hir iawn i Gymru fynd ar y droed flaen.

Fe wnaeth croesiad Brennan Johnson o’r asgell dde ar ôl pum munud ganfod Jordan James yn y cwrt cosbi, a hwnnw’n penio dros y trawst.

Creodd Cymru ddigon o gyfleoedd yn y chwarter awr agoriadol, gan gynnwys ergyd o bell gan Ethan Ampadu, ond roedd tipyn mwy o steil na sylwedd yn perthyn i’r chwarae am gyfnodau hir.

Daeth un o’r cyfleoedd gorau oddi ar gic rydd Sorba Thomas o’r ochr dde, wrth iddo fe ganfod Joe Rodon yn y cwrt, ond y cyfan roedd hwnnw’n gallu ei wneud oedd ei thanio hi’n uchel â’i droed chwith.

Chwarae’n troi’n chwerw

Er bod yr hanner awr agoriadol yn gorfforol ac yn gystadleuol, ychydig iawn o droseddu gafwyd cyn i Kenan Yıldız daro Connor Roberts â’i benelin ar ôl 25 munud, gyda chefnwr Cymru’n teimlo’r glec a’r troseddwr yn gweld cerdyn melyn am ei gamwedd.

Roberts ei hun oedd y chwaraewr nesaf i weld cerdyn melyn, wrth iddo fe lorio Mert Müldür funudau cyn i chwarae’n troi’n chwerw gyda ffrwgwd yng nghwrt cosbi Cymru ar ôl hanner awr.

Canlyniad y cyfan oedd cerdyn melyn i Barış Yılmaz am ffrae â Joe Rodon tros waedd am gic o’r smotyn i Dwrci, cyn i aelod o dîm hyfforddi’r ymwelwyr hefyd gael rhybudd am agor ei geg.

Roedd Cymru’n credu eu bod nhw wedi sgorio pan aeth pêl hir gan Aaron Ramsey i lwybr Sorba Thomas ar ôl 36 munud, gyda’r chwaraewr creadigol yn ei tharo hi’n destlus dros ben y golwr, ond roedd y llumanwr o Norwy yn y fan a’r lle i atal y gôl am gamsefyll.

Byddai Cymru wedi bod yn ddigon bodlon â’r meddiant gawson nhw yn yr hanner cyntaf, ond byddai eu gallu i fireinio’r chwarae ym mlaen y cae yn allweddol os oedden nhw am gael pwyntiau allan o’r gêm.

A fyddai’r coesau’n para 90 munud oedd yn gwestiwn arall.

Hanner amser: Cymru 0-0 Twrci

Roedd teimlad hollol wahanol i funudau agoriadol yr ail hanner.

Er i Gymru ddominyddu’r meddiant yn yr hanner cyntaf, ychydig iawn o le gawson nhw i chwarae ar ddechrau’r ail hanner.

Arweiniodd eu penderfyniad i chwarae allan o’r cefn at hanner cyfle i Yılmaz o flaen y gôl yn y pum munud gyntaf wrth i Dwrci bwyso ar yr amddiffyn, ac roedd dicter rhai o’r dorf i’w deimlo.

Cafodd Cymru hanner cyfle ryw ddeng munud i mewn i’r ail hanner, wrth i Harry Wilson a Brennan Johnson gyfuno, ond llusgodd Johnson y bêl heibio’r postyn heb drafferthu’r golwr, cyn i Wilson wneud yr un fath ryw funud yn ddiweddarach wrth ailddarganfod momentwm yr hanner cyntaf.

Fe greodd Sorba Thomas argraff ar yr asgell unwaith eto yn yr ail hanner, wrth i’w ddyfalbarhad wrth ymosod ennill cic rydd i Gymru ar ôl awr, ond aeth y bêl ymhell dros y trawst oddi ar ben Ramsey.

Gyda’r momentwm o blaid Cymru unwaith eto, roedd Neco Williams yn ymosod pan gafodd ei daclo’n flêr gan Yılmaz, a hwnnw’n gweld ail gerdyn melyn fel bod ei dîm i lawr i ddeg dyn am bron i hanner awr ola’r gêm.

Gyda choesau Cymru’n blino ac ychydig iawn o arwyddion ar ôl 70 munud fod gôl ar y gorwel, daeth Lewis Koumas a Kieffer Moore i’r cae yn lle Aaron Ramsey a Sorba Thomas.

Gyda’r ergyd drom gyntaf ar Moore, cafodd e gic i’w wyneb a bu’n rhaid i’r ymosodwr mawr gael triniaeth am rai munudau, ond buan y cafodd e rwymyn am ei ben er mwyn cael dychwelyd i’r cae i fonllef o gymeradwyaeth gan y Wal Goch.

Er bod Cymru’n ôl dan bwysau yn y pum munud olaf, gyda chyfres o giciau cornel i Dwrci arweiniodd at arbediad gan Danny Ward, cafodd tîm Craig Bellamy ail wynt wrth iddyn nhw wthio’n galed am y gôl hollbwysig, gydag wyth munud wedi’u hychwanegu am anafiadau ar ddiwedd y 90.

Wnaeth traed Cymru ddim dod oddi ar y sbardun, a daeth cyfle euraid i Johnson yn y cwrt cosbi wrth iddo fe droelli mewn gofod, yn debyg i Hal Robson-Kanu yn yr Ewros, ond aeth ei ergyd derfynol yn wastraff.

Ymlaen at Montenegro nos Lun, felly, wrth i’r rheolwr geisio’i fuddugoliaeth gyntaf wrth y llyw.

“Bum mis yn ôl, roeddwn i’n barod i fynd o fod yn hyfforddwr i fod yn rheolwr,” meddai Craig Bellamy.

“Dw i ddim yn feistr ar hyn ar ôl un gêm, ond wnes i wir fwynhau.

“Dw i’n dal i drio amsugno’r cyfan.”