Sgorfwrdd

Does dim lle yng ngharfan griced Morgannwg i Timm van der Gugten ar gyfer y daith i Hove i herio Sussex yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Llun, Medi 9).

Gyda gobeithion y sir Gymreig o ennill dyrchafiad yn pylu, maen nhw wedi penderfynu gorffwys y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, tra bod y Cymro James Harris yn dychwelyd o anaf.

Sussex sydd ar frig yr ail adran ar hyn o bryd, tra bod Morgannwg yn bumed gyda thair gêm yn weddill.

Hon yw’r gêm olaf gyda’r bêl Kookaburra cyn i’r chwaraewyr ddechrau defnyddio’r bêl Dukes unwaith eto wrth i’r tymor dynnu tua’i derfyn.

Mae’r bowliwr cyflym Fraser Sheat allan ag anaf i linyn y gâr, felly mae Ben Morris wedi’i gynnwys yn y garfan unwaith eto, tra bo’r chwaraewr amryddawn Ben Kellaway hefyd wedi gwella o anaf.

“Mae cael wythnos i’r chwaraewyr ymadfer ac aildanio i’w groesawu, wrth i ni geisio taflu popeth i mewn i’r tair gêm Bencampwriaeth olaf a’r rownd derfynol 50 pelawd,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Cafodd yr ail dîm dri diwrnod gwych o griced yn erbyn Hampshire yr wythnos hon yng Nghasnewydd, oedd yn werthfawr hefyd i rai o’n carfan ni oedd yn ysu am gael chwarae gêm.

“Mae Sussex wedi bod yn hedfan eleni ym mhob fformat, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at brofi’n sgiliau a’n cynlluniau gêm yn erbyn y tîm sy’n gosod y safon.”

Carfan Sussex: J Simpson (capten), T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, D Hughes, S Hunt, D Ibrahim, O Robinson, J Unadkat

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, J Harris, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Root, B Morris, A Tribe, W Smale