Mae Gemau Paralympaidd llwyddiannus i’r Cymry yn Paris wedi dod i ben, ar ôl iddyn nhw ennill dwy fedal yn fwy nag y gwnaethon nhw eu hennill yn Tokyo.

Llwyddodd y Cymry yn nhîm Prydain i ennill 16 o fedalau rhyngddyn nhw – saith aur, pump arian a phedair efydd dros ddeg camp wahanol.

Dyma ragori ar y 14 y gwnaethon nhw eu hennill yn Tokyo y tro diwethaf (pedair aur, tair arian a saith efydd).

Dyma’r nifer fwyaf o fedalau i’r Cymry eu hennill ers y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008.

Roedd 22 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris, ac roedd Hollie Arnold (gwaywffon), Paul Karabardak (tenis bwrdd) a David Smith (boccia) yn cystadlu yn eu pumed Gemau.

Y Gymraes Olivia Breen oedd yn rhannu’r cyfrifoldeb o fod yn gyd-gapten ar dîm Paralympaidd Prydain.

Daeth y fedal aur gyntaf i’r Cymry gan Matt Bush yn y para-taekwondo, a hwnnw’n cystadlu yn ei Gemau cyntaf, wedi iddo guro ei wrthwynebydd o 5-0 yn rownd derfynol K44 + 80kg i’r dynion ddydd Sadwrn, Awst 31.

Cipiodd Rhys Darbey (nofio) a Steffan Lloyd (para-seiclo) eu medalau cyntaf yn eu Gemau cyntaf gan sicrhau’r aur, ac fe lwyddodd Rhys Darbey, yr athletwr ieuengaf yn y tîm, i gipio’r fedal arian yn ras medli unigol 200m i ddynion hefyd.

Fe lwyddodd Jodie Grinham, a hithau’n saith mis yn feichiog, i sicrhau dwy fedal mewn saethyddiaeth – un aur ac un efydd.

Ond lwyddodd Aled Siôn Davies ddim i gipio’r aur yng nghystadleuaeth y taflu pwysau, er mawr siom a syndod iddo, wrth iddo gystadlu yn y ei bedwerydd Gemau.

Y Gymraes olaf i gipio medal yn y Gemau yn Paris oedd Laura Sugar, wrth iddi hawlio’r fedal aur yn y senglau caiacio KL3 200m a gosod record Baralympaidd newydd.


Dyma’r holl fedalau enillodd athletwyr o Gymru yn Paris:

Aur  

Matt Bush (para-taekwondo – K44+ 80g y dynion)

Ben Pritchard (para rhwyfo – sgwlio sengl y dynion)

James Ball a Steffan Lloyd (para-seiclo – tandem b yn erbyn y cloc, 1000m)

Sabrina Fortune (para-athletau – taflu pwysau F20 i ferched)

Rhys Darbey (para-nofio – ras gyfnewid 4x100m cymysg S14)

Jodie Grinham (para-saethyddiaeth – tîm cymysg cyfansawdd agored)

Laura Sugar (para canŵio – senglau caiacio ferched 200m KL3)

 

Arian  

Rhys Darbey (para-nofio – ras medli unigol 200m i ddynion SM14)

Rob Davies (para tenis bwrdd – unigol i ddynion MS1)

Georgia Wilson (para marchogaeth – digwyddiad dull rhydd unigol gradd II)

Aled Siôn Davies (para athletau – taflu pwysau F63)

Phil Pratt (pêl-fasged cadair olwyn, tîm y dynion)

 

Efydd

Paul Karabardak (para tenis bwrdd – dyblau’r dynion MD14)

Jodie Grinham (para-saethyddiaeth – cyfansawdd unigol agored i ferched)

Georgia Wilson (para-farchogaeth – dressage gradd II)

Hollie Arnold (para athletau – taflu’r gwaywffon i fenywod F46)