Bydd tîm pêl-droed Cymru’n gobeithio adeiladu ar eu perfformiad yn erbyn Twrci nos Wener (Medi 6), wrth iddyn nhw deithio i Montenegro heno (nos Lun, Medi 9) ar gyfer eu gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Er iddyn nhw ddominyddu’r meddiant yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wnaethon nhw fethu darganfod cefn y rhwyd wrth i’w gêm agoriadol orffen yn gyfartal ddi-sgôr yn erbyn deg dyn Twrci.

Ond roedd digon o addewid yn eu perfformiad hefyd, gyda’u dull cyflym o basio’r bêl a symud i fyny’r cae achosi problemau i’w gwrthwynebwyr ar adegau.

Dywedodd Craig Bellamy ar ddiwedd y gêm mai dyna’r gwaethaf fyddai ei dîm yn chwarae yn y twrnament, gan addo adeiladu ar y perfformiad er mwyn sicrhau canlyniadau gwell yng ngweddill y twrnament.

Collodd Montenegro eu gêm agoriadol nhw o 2-0 yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Problemau

Roedd disgwyl i’r gêm heno gael ei chynnal yn Stadiwm Genedlaethol Podgorica, ond bu’n rhaid ei symud oherwydd cyflwr y cae yno.

Roedd hynny’n golygu trafferthion teithio i gefnogwyr Cymru oedd wedi cael lle i aros yno, wrth iddyn nhw orfod teithio 33 milltir i Niksic, lle bydd y gêm bellach yn cael ei chynnal.

Dywedodd Craig Bellamy na fyddai hynny’n esgus i’w chwaraewyr wrth iddyn nhw orfod addasu eu trefniadau rywfaint.

Y tîm a’r gêm

Mae Cymru wedi cael hwb ar drothwy’r gêm, yn dilyn y newyddion bod yr ymosodwr Kieffer Moore yn holliach.

Cafodd e anaf i’w ben yn y gêm yn erbyn Twrci, ar ôl i wrthwynebydd sathru ar ei wyneb.

Hon fydd y drydedd gêm ym Montenegro rhwng y ddau dîm, gyda Montenegro yn fuddugol o 2-1 yn 2009 ac o 1-0 yn 2010.

Dyma’r gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad ers 2011, pan enillodd Cymru o 2-1 yng Nghaerdydd.

Dim ond unwaith o’r blaen mae Montenegro wedi ennill tair gêm o’r bron – yn 2010 – gyda’r ail fuddugoliaeth yn erbyn Cymru bryd hynny.

Does gan Gymru ddim record dda iawn oddi cartref yn ddiweddar, ar ôl ennill un gêm yn unig allan o naw – eu record waethaf ers 1991 pan oedd Terry Yorath wrth y llyw.

Dydy Cymru ddim wedi sgorio mewn pedair gêm bellach – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2012 – dydyn nhw heb fynd pum gêm heb gôl ers 2005.