Llwyddodd Stephen (Stevie) Williams o Gapel Dewi ger Aberystwyth i ennill ras seiclo’r Tour of Britain dros y penwythnos – y Cymro cyntaf i’w hennill – gydag amser o 21 awr, 25 munud a 14 eiliad.

Dyma’r tro cyntaf i rywun o wledydd Prydain ddod yn fuddugol yn y ras ers 2016.

Roedd gan y Cymro fantais o 16 eiliad cyn dechrau’r chweched cymal, sef y cymal olaf rhwng Lowestoft a Felixstowe yn Suffolk ddydd Sul (Medi 8).

Daeth y fantais hon wedi i Stephen Williams ennill yr ail gymal ddydd Mercher (Medi 4), a’r trydydd cymal ddydd Iau (Medi 5).

Llwyddodd i gynnal ei fantais wrth iddo sicrhau ei fuddugoliaeth, gyda’r Albanwr Oscar Onley yn hawlio’r ail safle yn y dosbarthiad cyffredinol, a’r Ffrancwr Tom Donnenwirth yn drydydd.

Camodd y Cymro i’r podiwm dair gwaith yn Felixstowe – fel enillydd y ras, fel aelod o’r tîm buddugol, ac fel y seiclwr cyntaf o wledydd Prydain i orffen y ras.

Matevž Govekar o Slofenia enillodd y ras wib ar ddiwedd y cymal olaf, tra gorffennodd Williams gyda gweddill y peloton.

Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys chwe chymal anodd o rasio, ac fe gychwynodd y cyfan o Kelso yn yr Alban.