Mae tîm pêl-droed Cymru wedi curo Montenegro o 2-1 oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dyma fuddugoliaeth gynta’r rheolwr Craig Bellamy yn ei ail gêm wrth y llyw, yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd nos Wener (Medi 6).

Aeth Cymru ar y blaen ar ôl 37 eiliad drwy Kieffer Moore, wrth i’r ymosodwr fanteisio ar gamgymeriad y gwrthwynebwyr.

Fe wnaethon nhw ddyblu eu mantais ddwy funud yn ddiweddarach pan darodd Harry Wilson chwip o ergyd o bell.

Bu’n rhaid i’r timau ymdopi â glaw trwm, gyda chryn ddyfalu y gallai’r gêm gael ei gohirio neu ei chanslo.

Roedd disgwyl i’r gêm heno gael ei chynnal yn Stadiwm Genedlaethol Podgorica, ond bu’n rhaid ei symud oherwydd cyflwr y cae yno, ac fe wnaeth rhai cefnogwyr wynebu anawsterau wrth geisio hedfan allan i’r gêm.

Roedd hynny’n golygu trafferthion teithio ychwanegol i gefnogwyr Cymru oedd wedi cael lle i aros yn y brifddinas, wrth iddyn nhw orfod teithio 33 milltir i Niksic.

Yn dilyn perfformiad campus yn erbyn Twrci, roedd hi’n syndod braidd fod pum newid i dîm Cymru, yn enwedig yn y gôl wrth i Karl Darlow ennill ei gap cyntaf.

Daeth cyfleoedd hefyd i Ollie Cooper a Lewis Koumas ddechrau’r gêm ar ôl bod ar y fainc nos Wener.

Ar ôl dechrau mor gryf i Gymru, daeth cyfle gorau Montenegro cyn yr egwyl pan darodd Stevan Jovetic y trawst gydag ergyd yn agos i’r llinell hanner.

Gallai Kieffer Moore fod wedi sgorio ail gôl yn yr ail hanner, ond aeth ei ergyd tu fewn i’r cwrt cosbi dros y trawst.

Fe wnaeth Montenegro haneru mantais Cymru yn y pen draw, wrth i Driton Camaj ddarganfod y rhwyd ar ôl 72 munud.

Byddai wedi bod yn falch o sgorio ar ôl gweld ymgais yn gynharach yn y noson yn cael ei hatal ar linell y gôl gan y capten Ben Davies.

Bydd y perfformiad a’r canlyniad wedi plesio Craig Bellamy, yn enwedig ar ôl i Gymru oddef pedair gêm heb gôl cyn heno.

Mae Cymru bellach wedi ennill dwy gêm oddi cartref yn eu deg gêm diwethaf.

Mae pedwar pwynt yn eu dwy gêm gyntaf yn golygu eu bod nhw ar yr un nifer o bwyntiau â Thwrci ar y brig.