Mae Ben Kellaway, troellwr ifanc tîm criced Morgannwg, wedi ychwanegu ei enw i’r llyfrau hanes gyda’i bum wiced yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove.
Y troellwr ifanc, sy’n ugain oed a 250 diwrnod, yw’r seithfed chwaraewr ieuengaf erioed i gipio pum wiced mewn batiad mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir.
Cipiodd e bum wiced am 142, wrth i Forgannwg frwydro i achub yr ornest ar y trydydd diwrnod.
Fe wnaeth e fowlio cymysgedd o sbin llaw dde a llaw chwith yn ei 43 pelawd, ac fe gipiodd ei bumed wiced wrth fowlio Ollie Robinson, sy’n chwarae dros Loegr.
Bowliwr arall sy’n chwarae yn y gêm hon, James Harris, yw’r ieuengaf erioed i gyflawni’r nod – roedd e newydd droi’n 17 oed pan gipiodd e saith wiced am 66 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste yn 2007.
Kiran Carlson, is-gapten Morgannwg, yw’r troellwr ieuengaf i gyflawni’r nod, a hynny yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton yn 2016, ac yntau’n ddeunaw oed a 107 o ddiwrnodau.
Ymhlith y chwaraewyr eraill ar y rhestr mae Wilf Jones, George Shaw a Robert Croft.