Mae tîm criced Morgannwg wedi colli o fatiad ac 87 rhediad yn erbyn Sussex yn y Bencampwriaeth yn Hove.
Roedd angen iddyn nhw sgorio 305 i orfodi’r Saeson i fatio eilwaith, ond cawson nhw eu bowlio allan am 218 ar y trydydd diwrnod i ddod â’r ornest i ben ychydig dros ddiwrnod yn gynnar.
Ar ôl i’r sir Gymreig gael eu bowlio allan am 186 yn eu batiad cyntaf, gyda dim ond Kiran Carlson (56) a Dan Douthwaite (41) yn cyfrannu’n sylweddol at y sgôr, atebodd Sussex gyda sgôr o 491, wrth i’r troellwr ifanc Ben Kellaway gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed.
Roedd canred yr un i’r capten John Simpson (117) a Tom Clark (112), a hanner canred yr un i Daniel Hughes (87) a Henry Crocombe (54).
Adeiladodd Simpson a Clark bartneriaeth chweched wiced o 213, gyda Clark yn cyrraedd ei ganred oddi ar 220 o belenni mewn pedair awr a hanner.
Roedd Morgannwg ymhell ar ei hôl hi erbyn hynny, a bydden nhw wedi gorfod batio am bron i ddeuddydd cyfan i achub yr ornest.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Sussex, gyda’u seithfed buddugoliaeth mewn gemau pedwar diwrnod eleni, gam yn nes at ddychwelyd i’r adran gyntaf y tymor nesaf.
Manylion
Tarodd Colin Ingram (71) a Kiran Carlson (66) hanner canred yr un yn yr ail fatiad wrth i Forgannwg wynebu cryn her i achub yr ornest.
Cipiodd Ollie Robinson, Henry Crocombe a Jack Carson dair wiced yr un.
Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn gynnar yn y batiad, wrth i Asa Tribe golli ei wiced heb sgorio am yr ail waith yn yr ornest, gyda’r wiced yn mynd i’r bowliwr tramor llaw chwith Jaydev Unadkat.
Bu’n rhaid i Carson adael y cae ar ôl cinio o ganlyniad i anaf i’w gefn, ond bowliodd Robinson naw pelawd gywir iawn yn ei absenoldeb, gan sicrhau hanner cyfle i gael Ingram allan, ond cafodd ei ollwng yn y slip ar 36 gan Tom Alsop.
Cipiodd Crocombe wiced Billy Root yn fuan wedyn, wrth i’r batiwr daro’r bêl at ei wiced ei hun.
Roedd Ingram ar 71 pan gafodd ei ddal yn y cyfar oddi ar fowlio Carson, ac mae’r batiwr bellach wedi sgorio 1,170 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn ar gyfartaledd o 97.5 y batiad.
Collodd Morgannwg eu capten Sam Northeast, oedd wedi batio’n hwyrach nag arfer o ganlyniad i anaf i’w fraich, pan darodd e belen fer gan Crocombe at James Coles yn sgwâr at y ffin ar ochr y goes.
Adeiladodd Carlson a Kellaway bartneriaeth o 57, ond cafodd Sussex ail wynt yn dilyn egwyl fer o ganlyniad i’r glaw.
Yn yr ail belawd ar ôl y seibiant, ceisiodd Kellaway sgubo wrth i Carson daro’i goes o flaen y wiced, ac yn ei belawd nesaf cafodd Kiran Carlson ei ddal gan y maeswr agos ar ochr y goes wrth i’r bêl droi gryn dipyn.
Ar ôl i’r troellwyr gyflymu’r gyfradd fowlio, dychwelodd Robinson i achosi difrod unwaith eto, gan waredu Chris Cooke, James Harris ac Andy Gorvin o fewn 17 pelen.
Fe wnaeth Crocombe gau pen y mwdwl ar y cyfan pan fowliodd e Dan Douthwaite.