Bydd golffwyr benywaidd gorau’r byd yn teithio i gwrs Royal Porthcawl i gystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Merched AIG 2025.
Dyma’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth gael ei chynnal yng Nghymru, a hwn fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i ferched yn y wlad.
Yn ôl Golff Cymru, bydd yn gyfle unigryw i hybu cyfranogiad menywod yng Nghymru i’r gamp.
Maen nhw’n benderfynol o sicrhau bod y gwersi fydd yn cael eu dysgu o’r Bencampwriaeth eleni’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad y flwyddyn nesaf, ac y bydd o fudd hirdymor i’r gamp yng Nghymru.
“Rydyn ni’n bwriadu gweithio’n agos gyda’r R&A ac AIG, noddwyr y digwyddiad, i sicrhau bod torfeydd mawr yn bresennol, ac i ddefnyddio’r achlysur hwn i ysbrydoli mwy o ferched i gymryd rhan yn y gamp,” meddai Rob Holt, cadeirydd Golff Cymru a chyn-Brif Weithredwr Cwpan Ryder Cymru.
Mae’r rhaglen New2Golf eisioes wedi denu llawer o ferched i’r gamp, gyda chyrsiau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad, ond pwysleisia Rob Holt fod cadw chwaraewyr newydd yn her fawr hefyd.
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
“Rydyn ni am i gynifer o ferched ifanc â phosib fynychu’r digwyddiad, er mwyn iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan y chwaraewyr gorau,” meddai Rob Holt.
“Gall chwaraewyr gwrywaidd o bob safon gael eu hysbrydoli hefyd gan sgiliau chwaraewyr fel Lydia Ko, enillydd y Bencampwriaeth eleni ac enillydd medal aur Olympaidd, a Nelly Korda, pencampwr y byd.”
Bydd Royal Porthcawl, un o gyrsiau cyswllt gorau Ewrop, yn ganolbwynt i’r digwyddiad.
Er bod Golff Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant y digwyddiad, pwysleisia Rob Holt fod ymdrech genedlaethol yn hanfodol i gynnal digwyddiad o’r fath eto yng Nghymru.
“I mi, y peth gorau fydd gweld digwyddiad mor anhygoel yn datblygu o flaen fy llygaid,” meddai Jason Thomas, Cyfarwyddwr Twristiaeth, Marchnata, Digwyddiadau a Chreadigol Llywodraeth Cymru.
“Bydd y digwyddiad yn adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol o gynnal Taith y Chwedlau a Chwpan Ryder.
“Mae’r gwaith eisioes wedi dechrau i sicrhau ein bod yn manteisio’n llawn ar y cyfle gwych hwn, gan glymu’r digwyddiad i feysydd polisi pwysig ar draws y llywodraeth.
“Mae’n gyfle i arddangos yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru.
“Alla’i ddim aros am Royal Porthcawl yn 2025!”
Bydd Pencampwriaeth Agored Merched AIG 2025, yn cael ei chynnal yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 3, 2025.