Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi’i enwi’n Rheolwr y Mis yr Adran Gyntaf ar gyfer mis Awst.

Daw hyn ar ôl i Wrecsam gipio deg pwynt mewn pedair gêm ddi-guro yn ystod y mis, ac fe sgorion nhw dair gôl yn eu dwy fuddugoliaeth gartref, gan sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Bolton hefyd.

Mae Phil Parkinson wedi canmol y clwb am eu holl waith ar ddechrau’r tymor, ar ôl iddyn nhw ennill dau ddyrchafiad yn olynol wrth symud o’r Gynghrair Genedlaethol i’r Adran Gyntaf o dan berchnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney, sêr byd ffilm Hollywood.

“Mae pawb yn cyfrannu,” meddai.

“Gallwn longyfarch ein hunain, ond dim ond mis cynta’r tymor yw hwn ac rydyn ni’n gwybod hynny, ac mae cymaint mwy o waith i’w wneud.

“Ond rydyn ni wir yn mwynhau bod yn yr adran hon.”