Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

22:23

IMG_8170

Travis Head, capten Awstralia heno, wedi methu â chuddio’i siom ar ôl colli.

22:20

Seren y gêm, Liam Livingstone, yn siarad â’r wasg ar ôl y gêm.

21:49

BUDDUGOLIAETH I LOEGR

Y Saeson yn fuddugol o dair wiced.

Gêm gyffrous i unioni’r gyfres 1-1 gydag un gêm i fynd yn Old Trafford, Manceinion ddydd Sul.

21:48

WICED!

Pumed wiced i Short. Ergyd fawr i’r awyr gan Carse, a’r daliad i David.

Adil Rashid wrth y llain.

Un i ennill

21:47

WICED!

Livingstone wedi mynd am un ergyd fawr yn ormod ac wedi cael ei fowlio gan Short – ei bedwaredd wiced.

Daeth ei 87 oddi ar 47 o belenni. Y batiad sydd wedi ennill y gêm i Loegr. Gwych o berfformiad!

21:45

Chwech a phedwar gan Livingstone yn sicrhau na all Lloegr golli.

Mae’r sgôr yn gyfartal…

Naw pelen i ddod….

21:43

Ar ôl 18 pelawd, Lloegr 181 am bump.

13 i ennill oddi ar 12 pelen.

21:39

173 am bump yw sgôr Lloegr gyda thair pelawd yn weddill.

Mae angen 21 arnyn nhw i ennill oddi ar 18 pelen.

21:36

WICED!

Curran wedi’i ddal ar ymyl y cylch gan Connolly. Ail wiced yn y belawd i Short.

Lloegr 171 am bump. Ydy Awstralia yn ôl yn y gêm?!

Jamie Overton sydd wrth y llain.

21:34

WICED!

Bethell wedi’i fowlio gan Short am 44 (oddi ar 24 o belenni). Batiad campus gan y chwaraewr ifanc yn ei ail gêm dros ei wlad.

Partneriaeth o 90 gyda Livingstone ar ben. Ac maen nhw wedi bod yn allweddol fan hyn heno.

Lloegr 169 am bedair. Sam Curran yw’r batiwr newydd.