Bydd panelwyr yn gofyn a yw awduron Cymraeg yn ymateb yn wahanol i rai Saesneg pan ddaw hi at yr amgylchedd…

Fe fydd gŵyl amgylcheddol newydd yn digwydd yng Nghaernarfon dros benwythnos ym mis Hydref. Mae’r rhaglen dridiau o hyd yn gwegian â sesiynau difyr – yn eu plith mae sgyrsiau am siarcod, madarch gwyllt, ynni cymunedol a sgrifennu natur yng Nghymru.