Gallai cyflwyno’r terfyn cyflymder 20m.y.a. mewn rhagor o lefydd yn y Deyrnas Unedig arbed £50 y flwyddyn i yrwyr, yn ôl y cwmni yswiriant esure.

Cafodd y terfyn diofyn ei gyflwyno yng Nghymru fis Medi y llynedd, ac mae wedi hollti barn y cyhoedd a gwleidyddion.

Mae gan awdurdodau lleol rwydd hynt i addasu’r terfyn os ydyn nhw’n teimlo bod angen gwneud hynny mewn rhai mannau.

Mae Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gefnogol i’r terfyn 20m.y.a.

Yn ôl Louise Haigh, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, mae hi’n barod i “gefnogi’n llwyr” unrhyw awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sydd am gyflwyno’r terfyn.

Yswiriant

Yn gynharach eleni, nododd esure ostyngiad o 20% mewn hawliadau ar gyfer gwrthdrawiadau yng Nghymru ers i’r terfyn gael ei gyflwyno.

Bellach, maen nhw’n dweud y byddai cyflwyno’r terfyn mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn arwain at ostyngiad o £50 mewn yswiriant i yrwyr ar gyfartaledd.

“Rydyn ni eisoes yn gweld y manteision mewn llefydd lle mae’r terfyn cyflymder 20m.y.a. wedi cael ei gyflwyno,” meddai Peter Martin-Simon, Prif Swyddog Cwsmeriaid esure.

“Nid yn unig mae hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i yrwyr a cherddwyr, ond byddai ei ymestyn hefyd yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, yn ogystal â difrifoldeb a chost y damweiniau hynny.

“O fewn tri mis ar ôl i ni nodi parth 20m.y.a. newydd, byddwn yn flaengar wrth leihau prisiau polisïau cwmseriaid fel rydyn ni wedi’i wneud eisoes yng Nghymru.”

Fe wnaeth esure ostwng y premiwm polisi ceir gan oddeutu 10% i yrwyr yng Nghymru ar ddiwedd 2023.

Mae 20’s plenty, partner esure, yn gofyn am derfyn cyflymder 20m.y.a. diofyn mewn mannau preswyl ac yng nghanol trefi a phentrefi’r Deyrnas Unedig.

“Mae hyn yn cadarnhau ar raddfa genedlaethol fanteision cyflymder is, nid yn unig wrth leihau anafiadau a pheryglon ond hefyd drwy ddarparu buddiannau i yrwyr wrth leihau’r premiwm yswiriant.

“Mae’r premiwm llai wedi cael ei gyflwyno yng Nghymru oherwydd mai 20m.y.a. yw’r norm bellach ar strydoedd mewn trefi a phentrefi.

“Bydd gyrwyr yn Lloegr yn parhau i wynebu premiwm uwch tan bod y clytwaith presennol o derfynau 20m.y.a. drwy eithriad yn cael ei atgyfnerthu’n 20m.y.a. fel norm.

“Rydym yn diolch i esure am eu diddordeb a’u gweithgarwch wrth nodi a dangos y manteision hyn i gymunedau a gyrwyr.”