Aeth 30 o flynyddoedd heibio bellach ers i’r cynnyrch Masnach Deg cyntaf gyrraedd silffoedd Cymru, a gweddill gwledydd Prydain.

Wrth i Bythefnos Masnach Deg ddechrau heddiw (dydd Llun, Medi 9), mae un o arweinwyr cydweithredfa ffermwyr o Wganda, sy’n cynhyrchu coffi, yn ymweld â Chymru.

Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Masnach Deg ar eu pen-blwydd yn 30 oed, mae’r byd llawer mwy ansefydlog nawr nag yr oedd yn 1994, yn sgil rhyfeloedd a newid hinsawdd.

Ers ei sefydlu, mae Masnach Deg wedi bod yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael prisiau teg am eu cynnyrch.

Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn statws Masnach Deg.

“Rwy’n un o’r nifer fawr o gynhyrchwyr sydd wedi elwa o Fasnach Deg,” meddai Jenipher Sambazi, sy’n arwain fferm Jenipher’s Coffi yn Wganda.

“Rwy’ wedi gallu codi fy fferm a’m teulu mewn ffordd na allwn ei ddychmygu cyn Masnach Deg.

“Mae pobol Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o’n cydweithredfa, ac rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r garreg filltir bwysig hon gyda nhw.”

‘Pris teg yn newid popeth’

Ers 1989, mae pris coffi byd-eang wedi bod o dan y Pris Isaf a’r Premiwm Masnach Deg bron 60% o’r amser.

Ychwanega Ffion Storer Jones, cyd-sylfaenydd Jenipher’s Coffi, fod prisiau anwadal a thywydd anrhagweladwy yn heriau sy’n gyffredin rhwng ffermwyr o Gymru ac Wganda.

“Mae pris teg yn newid popeth; rwy’n gwybod hyn fy hun, wedi fy magu ar fferm deuluol,” meddai.

“Oni bai bod cynhyrchwyr yn ennill pris teg sy’n eu galluogi i ofalu am eu teuluoedd, ffermydd a’n dyfodol cytûn, sut allwn ni obeithio mynd ati i daclo effeithiau cynhesu byd-eang ac atgyfnerthu cynhyrchu a chyflenwadau bwyd?”

‘Byd llawer mwy ansefydlog’

Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn mewnforio bron i hanner ei bwyd o wledydd eraill, ac mae tua 16% o’r gwledydd hynny mewn perygl o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd, heb fod ganddyn nhw’r gallu i ymateb.

Yn ôl adroddiad pen-blwydd 30 oed Sefydliad Masnach Deg, Tyfu ein Mudiad dros Newid, “mae’r byd lawer mwy ansefydlog nag oedd yng nghanol y 1990au”.

Dywed fod newid hinsawdd, gwrthdaro a’r pandemig wedi amlygu’r bygythiadau i fywoliaeth ffermwyr ac wedi dangos pa mor fregus yw system fwyd y byd.

Yn yr adroddiad, mae Masnach Deg yn diolch i ymgyrchwyr, busnesau a llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu cyfraniadau dros y tri degawd diwethaf, ond yn dweud:

  • bod angen i fusnesau gynyddu eu hymrwymiadau i werthu cynnyrch Masnach Deg, a gweithio gyda’i gilydd ar ffyrdd arloesol o gael gafael ar gynnyrch Masnach Ddeg fydd yn cefnogi cynaliadwyedd;
  • bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddarparu strategaeth fydd yn helpu i gwrdd â thargedau yn ymwneud â’r hinsawdd, a bwrw ymlaen â chyfreithiau i fynd i’r afael â dadgoedwigo a thorri hawliau dynol yn y gadwyn gyflenwi, ynghyd â chefnogi ffermwyr;
  • bod angen i gefnogwyr ac ymgyrchwyr ddal busnesau a llywodraethau’n atebol, ac annog mwy o bobol i brynu cynnyrch Masnach Deg mewn archfarchnadoedd.

Dywed Mike Gidney, Prif Weithredwr y Sefydliad Masnach Deg, fod “angen cydnabod yr angen am fwy o gydweithio a brys wrth fynd i’r afael â heriau cymhleth y presennol”.

“Mae Masnach De yn cael ei yrru gan weledigaeth o fyd ble mae masnach yn effeithio’n gadarnhaol ar bobol a’r blaned,” meddai.

“Wrth barhau i flaenoriaethu prisiau teg a llywodraethiant teg, gallwn adeiladu dyfodol lle mae masnach yn gweithio i bawb.”