Mae Plaid Cymru’n annog aelodau seneddol Llafur i bleidleisio yn erbyn y toriadau i daliad tanwydd y gaeaf.
Bydd y mater yn destun pleidlais yn San Steffan fory (dydd Mawrth, Medi 10).
Daw’r alwad gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth iddi ddweud na ddylai pensiynwyr ddioddef yn sgil methiant economaidd y Llywodraeth Lafur.
Nod y taliad yw helpu pensiynwyr i dalu biliau tanwydd uwch, ond byddai’r newid i’r drefn yn golygu mai dim ond y rheiny sy’n hawlio Credyd Pensiwn fyddai’n gymwys i dderbyn y taliad.
Cyn hyn, roedd taliadau o £300 ar gael i bawb dros oed pensiwn gwladol.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan y toriadau.
Cafodd y ffigurau eu datgelu gan Emma Reynolds, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, wrth iddi ymateb mewn llythyr i Ann Davies, llefarydd gwaith a phensiynau Plaid Cymru sydd hefyd yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin.
‘Cyfiawnhad’
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd 400,000 o aelwydydd ar eu colled o ganlyniad i’w cynllun i dorri Taliad Tanwydd y Gaeaf, fel gafodd ei ddatgelu mewn ymateb i gwestiynau seneddol gan Blaid Cymru,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rŵan, mae’n rhaid i aelodau seneddol Llafur ystyried a fedran nhw wir gyfiawnhau cyflwyno’r fath raddfa eang o galedi.
“Allai neb sydd â dealltwriaeth o gymunedau Cymreig honni bod 400,000 o aelwydydd pensiynwyr Cymru’n gefnog ac y medran nhw ymdopi heb y taliad hwn.
“Mae cyfyngu Taliad Tanwydd y Gaeaf i’r rheiny ar Gredyd Pensiwn yn unig yn rhy gyfyngus o lawer.
“Yn hytrach, gallai’r Llywodraeth gynyddu’r oedran pan fo modd i bensiynwyr hawlio’r taliad, er enghraifft, fel bod y rhai hynaf a’r mwyaf bregus yn parhau i dderbyn cefnogaeth.
“Fel arall, gellid cyflwyno Taliad Tanwydd y Gaeaf efo diffiniad o incwm mae modd ei drethu.”
‘Dewisiadau anodd’
“Mae gweinidogion Llafur wedi adleisio’r llinell yn barhaus dros y dyddiau diwethaf fod y llywodraeth newydd wedi cael eu gorfodi i wneud ‘dewisiadau anodd’,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.
“Ond pam fod ‘dewisiadau anodd’ bob amser fel pe baen nhw’n arwain at ragor o ddiflastod i’r rheiny sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd?
“Y Deyrnas Unedig yw’r chweched economi fwyaf yn y byd, ac mae 165 biliwnydd yn y wlad.
“Mae’r syniad fod torri cefnogaeth ar gyfer tanwydd i bensiynwyr yn anochel, yn syml iawn, yn ffarsaidd.
“Mae pensiynwyr yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi tanwydd, ac yn fwch dihangol annheg gan Rachel Reeves er mwyn hybu naratif o blaid llymder fydd â chanlyniadau difrifol i bobol hŷn.
“Rhaid i’r aelodau seneddol Llafur hynny gafodd eu hethol ym mis Mehefin ar lwyfan dros ‘newid’ ofyn iddyn nhw eu hunain a ydyn nhw am fod yn rhan o ideoleg barhaus sydd mor andwyol i Gymru.
“Rhaid i bensiynwyr beidio â chael eu gorfodi i ddioddef yn sgil methiant economaidd San Steffan.
“Rwy’n annog pob aelod seneddol Llafur yng Nghymru i bleidleisio ochr yn ochr â Phlaid Cymru ddydd Mawrth, er mwyn sicrhau bod pensiynwyr yn cael eu cefnogi drwy’r hyn allai fod yn aeaf llwm.”