Bydd cynlluniau i ymgynghori ar gau ysgol gynradd ym Mhowys yn cael eu hystyried ddiwedd y mis gan y Cabinet, meddai’r Cyngor Sir.

Y bwriad yw cau Ysgol Bro Cynllaith yng ngogledd y sir, sydd â 26 o ddisgyblion ar hyn o bryd.

Ddydd Mawrth nesaf (Medi 17), bydd y Cabinet yn ystyried y cynlluniau i ymgynghori, ac mae gofyn iddyn nhw ddechrau’r broses statudol, gyda’r posibilrwydd o gau’r ysgol ar Awst 31, 2025.

Dyma gam nesaf gweithredu adolygiad Dalgylch Llanfyllin, gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet fis Medi diwethaf.

Bydd y disgyblion wedyn yn cael eu trosglwyddo i’w hysgol agosaf ym Mhowys. I nifer, Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant fydd yr ysgol honno.

‘Nid ar chwarae bach…’

Dywed y Cynghorydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu, eu bod nhw wedi “ymrwymo i sicrhau’r dechrau gorau posib i’n dysgwyr”, a’u bod nhw’n credu “y bydd ein Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn”.

“Fel rhan o’r strategaeth, mae angen i ni fynd i’r afael â’r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd y disgyblion sy’n gostwng a’r nifer uchel o leoedd dros ben,” meddai.

Mae’n nodi nad ydyn nhw’n disgwyl i niferoedd y disgyblion gynyddu ryw lawer i’r dyfodol.

“Nid ar chwarae bach y cafodd y cynnig gerbron y Cabinet ei lunio ar gyfer Ysgol Bro Cynllaith, ond credwn fod angen mynd i’r afael â’r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd,” meddai.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau gyda chyfoedion o oedrannau tebyg ac yn mynychu ysgol fwy allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol.”