Neithiwr, wrth i mi olchi pentwr enfawr o lestri ôl-cinio rhôst, penderfynais fentro drwy ffenest hudol yr iPad a dal fyny ar y penodau niferus o Pobol y Cwm roeddwn wedi’u colli yn ddiweddar; roedd ryw eironi i’r ffaith taw mynychu’r Eisteddfod lawr yn y de oedd wedi tarfu ar fy arferiad o binge-io yn brydlon – dw i hyd yn oed wedi colli rhai!
Wel, ffeindiais fy hun yn gwrando ar Ffion Llywelyn yn trafod symptomau blinder, methu canolbwyntio, newid mewn chwant bwyd a ballu. Des i i’r casgliad bron yn syth taw’r menopos oedd dan sylw yn y llinyn storïol yma; er, erbyn meddwl, roedd yna gliw arall enfawr wedi’i osod gan y sgriptwyr, gan iddi ddweud ei bod hi’n tynnu at ei hanner cant… a hynny, mewn ffordd, oedd yn teimlo braidd yn ddiangen yn y sgwrs (er, dysgwn mewn pennod hwyrach taw 47 yw hi mewn gwirionedd).
Beth bynnag, fel mae gwylwyr eraill y rhaglen yn gwybod, mi wnaeth Ffion ddehongli’r symptomau mewn ffordd wahanol iawn, gan fod ganddi hanes iechyd cymhleth ac roedd y symptomau’n debyg i rai fysa hi’n disgwyl eu gweld o ganlyniad i hynny.
Cafodd wybod gan y meddygon fod y profion am broblemau hefo’r iau a ballu yn glir, ond ei bod yn debygol taw’r menopos oedd yr esboniad. Ac, wrth gwrs, mewn plot twist clasurol opera sebon, mi wnaeth Mathew a Rhys ffeindio’r prawf cartref roedd hi wedi’i gymryd a’i luchio yn y bin, a’i gamgymryd am brawf beichiogrwydd!
Ymysg lot o ddadlau, daeth y gwir allan, ac mi wnaeth Ffion ddagreuol gicio Matthew allan wrth adrodd rhyw fath o fonolog di-gyswllt am fod yn hen a thybio y byddai Mathew a Rhys yn chwerthin am ei phen hi.
Roedd golygfa dda arall hefyd, lle roedd Ffion a Kelly yn trafod eu diffyg gwybodaeth am y cyflwr, a’r ffaith nad oes digon o drafod arno, ac felly doedd dim syndod i Ffion gael ei synnu pan wnaeth o gyrraedd.
Uniaethu
Bu thema’r bennod yn cylchdroi yn fy mhen wrth i mi gymryd fy ngwydryn o win coch a phwdin fyny grisiau, a bu’n tarfu braidd ar fy ngallu i ganolbwyntio ar Game of Thrones y noson honno (rydym wrthi’n binge-watsio’r bocs-set unwaith eto!).
Yn wir, roeddwn yn cael profiad ychydig yn debyg i’r hyn sydd wrth wraidd y gân ‘Killing Me Softly’, yn enwedig y teimlad hwnnw o gywilydd od, fel tasa rhywun wedi agor fy llythyrau a’u darllen allan i’r gynulleidfa. Pan ddechreuodd fy symptomau i, roeddwn innau – fel Ffion – wedi eu camgymryd am faterion eraill yn ymwneud â fy iechyd cymhleth.
Rwy’ wastad wedi cael problemau hefo rheoli tymheredd fy nghorff – mae’n gysylltiedig hefo’r trawiadau gefais yn blentyn, ac i’w weld yn etifeddiaeth barhaus, er nad ydw i’n dioddef o’r trawiadau bellach. Rwy’ hefyd yn dioddef pyliau o flinder erchyll, ac weithiau dryswch ac anghydlyniad (incoherence) o ganlyniad i hyn.
Mae fy nogfen ddiagnosis o ddyslecsia yn trafod problemau “cof dilyniannol tymor byr”, sy’n cynnwys yr anallu i ddysgu patrymau megis agweddau ar lythrennedd, a’r gallu i fynd ar goll mewn ardal gwbl gyfarwydd i mi. Ac mae fy mherthynas hefo bwyd wastad wedi bod yn un gymhleth. Mae yna ragor, ond dyna ddigon i roi syniad i chi…
Felly i ddechrau, meddyliais fy mod yn mynd drwy bwl drwg o’r problemau arferol; ac yna, poeni bod fy mhroblemau wedi gwaethygu’n eithafol ac y byddwn yn gorfod dod i arfer hefo byw fy mywyd dan fy amgylchiadau newydd. Ond, tua dechrau’r pandemig, fe wnaeth fy mislif ddiflannu dros nos!
Ac wrth gwrs, fel Ffion, i ddechrau roeddwn yn poeni fy mod yn feichiog – ond roedd hyn yn annhebygol iawn, gan fy mod wedi bod yn cymryd y bilsen ers blynyddoedd. Synfyfyriais fod fy nghyflwr Syndrom Waardenburg Math 1 (SWM1) yn golygu bod sawl agwedd ar fy mywyd ychydig yn wahanol i bobol eraill, a bod y menopos cymharol gynnar yn un ohonyn nhw.
Es at y meddyg ac, ar ôl profion eraill i dawelu’r meddwl, roedd hithau hefyd yn tybio taw dyna oedd yn digwydd i mi. Mae modd cael prawf i gadarnhau, wrth gwrs, ond fysa’n rhaid i mi ddod oddi ar y bilsen, ac mae hynny’n ystyriaeth gymhleth am sawl rheswm.
Fy mhrofiadau amgen
Nawr te, dwi’n teimlo’n euog hyd yn oed yn sgwennu hyn – ac, yn wir, dyna pam dw i ddim wedi sgwennu dim byd am y menopos hyd yn hyn – ond dw i wedi bod yn hynod o ffodus o ran fy menopos i, hyd at y pwynt lle nad oes brys mewn gwirionedd i wirio un ffordd neu’r llall. Ydw, dw i wedi cael ambell i symptom, ond yr unig un cadarn yw bod fy mislif wedi darfod. Ac o be’ dw i’n ddeall gan ffrindiau ac aelodau’r teulu, mae hyn yn groes i brofiadau rhai sydd yn cael problemau erchyll yn ymwneud â’r groth ac yn gorfod mynd i’r ysbyty a ballu.
Ar y llaw arall, mi ges i brofiad erchyll o’r ‘menarche’ (gair newydd i mi) a chyfnod cynnar y mislif. Ac, yn wir, wnaeth pethau ddim gwella heb ymyrraeth feddygol, a hynny drwy gymryd y bilsen. Ac wrth drafod hefo un ffrind, oedd wrthi’n cael profiad cwbl groes i mi, dywedodd ei bod hi wedi clywed fod pobol oedd yn cael profiadau anodd ar y dechrau yn cael llai o drafferth ar y diwedd.
Mae gen i theori hefyd – er, does dim sail feddygol gen i am hyn chwaith! – fod hyn oll yn ymwneud â fy nghyflwr genetig SWM1 wedi’r cwbl. Oherwydd, es i draw i siarad hefo fy modryb, sydd hefyd hefo SWM1, ac mi wnaeth hi gadarnhau ei bod hi wedi cael profiad tebyg iawn i mi, a hynny yn ei thridegau hwyr. Dwn i ddim, ynde, ond efallai fod hyn yn un o’r unig fuddion sydd i’r cyflwr hwn sydd wedi siapio fy mywyd i gymaint (ond dw i dal yn teimlo’n euog!).
Fy ‘menopot’
Un diwrnod, wrth i mi eistedd ar y gwely yn gwylio’r teledu ac yn yfed paned, symudais fy mraich i lawr a chefais fod rhywbeth yn y ffordd… a sylweddoli taw fy mol oedd ene! Yr arswyd! Roeddwn wastad wedi bod yn slim hefo bol bach fflat!
Tyfodd y broblem, ac er i mi roi pwysau ymlaen yn gyffredinol, mae siâp fy nghorff nawr wedi newid i gynnwys bol ‘muffin top’! Duwcs, a dacw fo yn sdicio allan o dan bob ffrog ac yn trio fy stopio rhag cau fy jîns! Sut a pham oedd hyn wedi digwydd mor sydyn?! A sut oedd cael gwared arno?!
Yn ddiweddar, wnaeth yr algorithmau ar-lein ddechrau dangos hysbysebion penodol i mi – rhai oedd yn amlwg wedi’u targedu at ferched canol oed – gan gynnwys gwybodaeth am golli pwysau a’r menopos. Wnaeth un neu ddwy grybwyll ‘pot belly’ a dilynais ddolenni a darllen am y cysylltiad hefo hormonau a ballu.
Roedd rhai o’r dolenni wedyn yn cynnig ‘atebion’, megis meddyginiaeth a deiet hudolus… am bris tanysgrifiad! Ond roedd yna un neu ddwy o erthyglau wedi’u sgwennu gan fenywod, yn trafod sut wnaethon nhw ymdopi a dysgu derbyn eu cyrff newydd, bod yn hapus a.y.b. Darllenais un erthygl oedd yn crybwyll y syniad o fedyddio’i bol newydd yn ‘Menopot’ ac, wel, fel onomastegydd, roeddwn wedi gwirioni â hyn!
Gair o gysur?
A dyma lle rydw i rŵan, felly, yn gorffwys fy llaw ar fy menopot, ac yn sidro sut fyswn yn cysuro Ffion. Achos, yn wir, dw i’n cofio cael y meddyliau gwrthresymegol hynny fy mod i rywsut, yn sydyn, yn hŷn ac yn wahanol mewn ryw ffordd ddiriaethol.
Er fy mod yn dal i gael y meddyliau yma weithiau, ac felly does dim atebion cadarn gen i i’w cynnig eto, mi ydw i erbyn hyn yn ei weld yn drawsnewidiad eithaf difyr. Dw i hefyd yn teimlo’n llai caeth i’m corff rywsut, a bod gen i fwy o ryddid meddyliol i fod yn chwilfrydig ac i ganolbwyntio ar archwilio pynciau o ddiddordeb… neu i ‘nerd-io’ yn ddi-baid, ynde – gan gynnwys am y menopos a’i effeithiau!