Ar drothwy Diwrnod Owain Glyndŵr heddiw (dydd Llun, Medi 16), daeth cannoedd o bobol ynghyd i orymdeithio drwy dref Machynlleth dros y penwythnos i alw am Ddeddf Eiddo.

Cafodd rali ei chynnal i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf Eiddo er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg.

Byddai Deddf Eiddo’n sefydlu hawl gyfreithiol pobol Cymru i gartref, sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen cymunedol yn hytrach nag asedau ariannol, a hwyluso perchnogaeth leol a mentrau cymunedol o eiddo, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Digwyddodd y rali ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n nodi 624 mlynedd ers ei goroni’n Dywysog Cymru annibynnol.

Ym Machynlleth y cynhaliodd Owain Glyndŵr ei Senedd.

‘Pair pob prawf, cysegr-le ein hanian’

Wrth annerch y dorf, dywedodd Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd a dirprwy arweinydd Plaid Cymru:

“Yma ym Machynlleth roedd safle ein senedd-dŷ cyntaf, pair pob prawf, cysegr-le ein hanian,” meddai Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a dirprwy arweinydd y blaid.

“Croesffordd lle mae’n hanes a’n presennol yn cwrdd.

“\Mae olion Glyndŵr ar y strydoedd o hyd – ond brwydr heddiw, nid ddoe, sy’n ein galw ni ynghyd.

“Nid yw Cymru ar werth: dyna’n geiriau, a galwad ydy’r geiriau. I uno, i herio, i ddyfalbarhau: galwad sy’n dangos na fyddwn yn ildio.

“Heb ymyrraeth, bydd angau ar ein bro.

“Heb ymyrraeth, bydd terfyn ar y llinyn hwnnw sy’n cysylltu pob un ohonom gyda’r rhai aeth o’n blaenau.

“Y Gymraeg sydd wedi’n cynnal ers canrifoedd. Yr iaith sydd yma’n fyw hyd heddiw.

“Nid yw Cymru ar werth’ ydy’n cri, a bloeddiwn y geiriau hynny nes atseinir pob sillaf yn ein Senedd.

“Fe frwydrwn, fe ddyfalbarhawn, fe hawliwn newid.”

‘Argyfwng’

“Rydym yn wynebu argyfwng,” meddai Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae ein pobol ifanc yn cael eu halltudio o’u cymunedau ac yn methu cael cartrefi i fyw ynddyn nhw.

“Roedd yna addewid am Bapur Gwyn gan y llywodraeth dros yr haf, ond rydyn ni yn dal i aros amdano. Yr oedi tragwyddol yna unwaith eto!

“Os daw cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio y bydd yn un radical. Un fydd yn sicrhau hawl statudol i gartref i bobol yn eu cymuned a hynny am bris sy’n fforddiadwy ac sy’n adlewyrchu’r cyflogau lleol.

“Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond dydi hynny yn bendant ddim yn mynd i ddigwydd os na all pobol ifanc fforddio byw yn eu cymunedau.

“Does gen i ddim amheuaeth y byddai Owain Glyndŵr yn cymeradwyo ac yn ymuno efo ni heddiw yn yr alwad am Ddeddf Eiddo, a ddim llai!”

Mewn arolwg barn yn ddiweddar gan YouGov, gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd 74% eu bod yn credu y dylai’r hawl i dai gael ei sefydlu yng nghyfraith Cymru.

Gan hepgor y rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd 85% yn cefnogi’r egwyddor.


Dyma araith Delyth Jewell yn ei chyfanrwydd:

Gyfeillion, am bleser yw hi i siarad gyda chi mewn safle sy’n ganolbwynt i’n hanes fel cenedl.

Yma ym Machynlleth roedd safle ein senedd-dy cyntaf, pair pob prawf, cysegr-le ein hanian.

Un o’r mannau ydy hwn sy’n sylfaenol i’n straeon. Croesffordd lle mae’n hanes a’n presennol yn cwrdd. Mae olion Glyndwr ar y strydoedd o hyd – ond brwydr heddi, nid ddoe, sy’n ein galw ni ynghyd.

“Nid yw Cymru ar werth”: dyna’n geiriau, a galwad ydy’r geiriau. I uno, i herio, i ddyfalbarhau: galwad sy’n dangos na fyddwn yn ildio.

Tra o’n i’n ystyried pa eiriau i’w rhannu gyda chi heddiw, dyma fi’n myfyrio ar y cysyniad o “werth”.

Beth ydy gwerth cartref?

Siarada nifer am dŷ fel buddsoddiad – yr ysgogiad i fuddsoddi mewn brics yn lle bro.

Cynnydd a chynnydd mewn arian ar draul cymunedau cyfan:

Nid gwerth ond gwarth – a gwarth cenedl yn y cynnydd, chwedl Gerallt.

A heb ymyraeth, bydd angau ar ein bro.

Dyna helaethdra’r hyn sydd yn y fantol fan hyn.

Heb ymyraeth, bydd terfyn ar y llinyn hwnnw sy’n cysylltu pob un ohonom gyda’r rhai aeth o’n blaenau. Y Gymraeg sydd wedi’n cynnal ers canrifoedd. Yr iaith sydd yma’n fyw hyd heddiw. Y Gymraeg sy’n cydio ynom ni gyd.

Dewrder, ffrindiau: dyna sydd ei angen. Nid oes angen digalonni. Canys yn y garreg hon fe glywir curiad calon cenedl.

Y bobl sy’n barod i ddatgan ein bod ni yma o hyd.

Cwrdd a wnawn heddi, ond nid er lles adeiladau’n unig.

Safwn gyda’n gilydd, dim ots lle yng Nghymru yw ein cartref – er lles trefi a phentrefi’n gwlad sy’n diflannu dan y llan.

Nid adeiladau sy’n ein huno, ond adain.

Adennydd sy’n estyn dros Gymru gyfan, o begwn Eryri i Ben y Fan.

Estynnant i’r awyr sy’n ein heiddo ni.

Adennydd sy’n ein cofleidio a’n hatgoffa nad brwydr y gogledd na’r gorllewin ydy hyn yn unig.

Nid brwydr y fro heb ffrind.

Ond brwydr Cymru gyfan.

Rwy’n estyn i chi gyd, yn y fro, solidariaeth o gymoedd y de. Safwn gyda chi yn yr ymdrech hon. Mae ffrindiau gennych ar y ffordd.

Cysylltiedig ydym: trwy garreg, trwy ddwr, trwy ein geiriau. Ein galwad.

“Nid yw Cymru ar werth” ydy’n cri. A bloeddiwn y geiriau hynny nes atseinir pob sillaf yn ein Senedd.

Bloeddiwn nes y bydd carreg-ateb.

Ac atsain i’n lleisiau’n llu.

Fe frwydrwn, fe ddyfalbarhäwn, fe hawliwn newid.

A, thrwyddi, ffrindiau, mi wnawn ni lwyddo.

Solidariaeth i chi gyd.