Bydd angen i weithwyr diwydiant dur Port Talbot ailhyfforddi ar gyfer yr economi wybodaeth newydd, yn ôl yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe.
Daeth adroddiadau’r wythnos ddiwethaf y bydd 2,500 yn cael eu diswyddo pan fydd cwmni Tata yn cau’r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot.
Ond mae Mike Hedges, sy’n grediniwr brwd ym mhotensial economaidd Cymru, yn awgrymu nad cadw’r diwydiant fel ag y mae yw’r ateb.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, amlinellodd yr Aelod o’r Senedd ei weledigaeth ar gyfer ffyniant economaidd de Cymru.
Ar sail adfywiad Salzburg yn Awstria, a Gweriniaeth Iwerddon, dadl Mike Hedges ydy bod angen i Lywodraeth Cymru annog sefydlu economi wybodaeth ac ymchwil yn ne Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar weithgynhyrchu o hyd.
‘Hawdd iawn colli swyddi’
“Mae fy adroddiad i’n dangos bod gan y rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop sectorau gweithgynhyrchu, ond dydyn nhw ddim wedi’u dominyddu ganddyn nhw, chwaith,” meddai Mike Hedges wrth golwg360.
“Ydy, mae gweithgynhyrchu yn boblogaidd gan lywodraethau am fod y sector yn cynnig nifer helaeth o swyddi, ond mae’n hawdd iawn colli’r swyddi yma.”
Mae’n cymharu sefyllfa Tata â hanes y cwmni moduro Almaenig Bosch, oedd yn cyflogi 1,500 o weithwyr yn ne Cymru nes iddyn nhw symud i Hwngari yn 2008.
Cafodd y penderfyniad effaith ddinistriol ar yr economi leol, ond fyddai hynny ddim wedi digwydd pe bai’r ardal yn fwy dibynnol ar economi wybodaeth fwy sefydlog.
Awgrym Mike Hedges ydy bod angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio enw da prifysgolion de Cymru i hyrwyddo busnesau cychwynnol a chwmnïau fydd yn bartneriaid gyda’r prifysgolion.
Bydd hyn yn datrys problemau brain drain honedig Cymru drwy sicrhau y bydd cyfleoedd gan raddedigion i fyw yn nalgylch y prifysgolion o hyd, meddai.
Yn ogystal, er y bydd angen iddyn nhw ailhyfforddi, mae Mike Hedges yn hyderus y byddai hen weithwyr â sgiliau yn y diwydiannau gweithgynhyrchu’n ddigon hapus i drosglwyddo i sectorau newydd pe bai’r cyfleoedd ar gael iddyn nhw.