Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, wedi cyhoeddi camau nesa’r terfyn cyflymder 20m.y.a., bron i flwyddyn ers i’r terfyn gael ei gyflwyno yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd e gynllun tri cham ar 20m.y.a., gan gynnwys Rhaglen Wrando Genedlaethol dros yr haf, oedd yn annog pobol i gymryd rhan a dweud eu dweud.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau priffyrdd ym mis Gorffennaf.
Mae dau gam cyntaf y cynllun wedi’u cwblhau, ac mae awdurdodau lleol bellach wrthi’n adolygu adborth gan bobol, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod 20m.y.a. wedi’i dargedu ar y ffyrdd cywir.
Mae nifer o gynghorau bellach yn dechrau amlinellu cam olaf y cynllun, drwy gyhoeddi gwybodaeth ar faint o adborth ddaeth i law, a’r camau nesaf.
Unwaith fydd eu hadolygiad wedi’i gwblhau, pe bai awdurdodau lleol yn penderfynu newid y terfyn cyflymder ar ffordd unigol, bydd proses statudol Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) yn dechrau, gan roi cyfle pellach i ymgysylltu â phobol leol.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn arwydd calonogol bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, gyda chwymp yn nifer y gwrthdrawiadau a gostyngiad mewn cyflymder.
‘Rhoi llais i bobol’
“Roeddwn i eisiau rhoi llais i bobol ar 20m.y.a. yn eu hardal eu hunain, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu adborth gyda’u cyngor lleol dros y misoedd diwethaf,” meddai Ken Skates.
“Rwyf am adeiladu o’r consensws eang bod 20m.y.a. yn iawn lle mae pobol yn byw, yn gweithio ac yn chwarae – mae hyn yn ymwneud â sicrhau’r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.
“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid llywodraeth leol.
“Rwy’n falch bod awdurdodau lleol yn dechrau symud i gamau olaf y cynllun.
“Bydd y gwaith hwn yn datblygu ar gyflymder gwahanol mewn gwahanol leoedd, yn ôl amgylchiadau lleol a faint o adborth a gafwyd.”
‘Penderfyniadau heriol’
“Mae awdurdodau lleol yn croesawu’r cyllid a’r cymorth pellach gaiff ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i sicrhau’r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir,” meddai Andrew Morgan, cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Ond maen nhw’n wynebu penderfyniadau heriol.
“Bydd angen i ni gydbwyso’n ofalus y manteision a’r anfanteision o godi cyflymder.
“Bydd diogelwch pob defnyddiwr ffordd wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.”