Mae’r cyn-gyflwynydd teledu Huw Edwards yn ei ôl yn y llys yn Llundain heddiw (dydd Llun, Medi 16), ac fe allai gael ei ddedfrydu.

Fe wnaeth o gyfaddef bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant ym mis Gorffennaf.

Gallai’r ynad yn Llys Ynadon Westminster ei ddedfrydu fore heddiw, neu benderfynu nad oes gan y llys ddigon o bwerau a’i gyfeirio at Lys y Goron.

Pe bai’n cael ei ddedfrydu heddiw, gallai wynebu hyd at ddeuddeg mis yn y carchar, neu ddedfryd o garchar wedi’i gohirio.

Mae gan yr ynadon y pwerau i roi dedfryd o wasanaeth cymunedol iddo neu ei anfon ar raglen driniaeth i droseddwyr rhyw.

Byddai Llys y Goron yn gallu rhoi dedfrydau llymach iddo.

Cefndir

Fe ymddangosodd Huw Edwards gerbron ynadon ym mis Gorffennaf, a phledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Clywodd y llys fod Huw Edwards, oedd wedi ymddiswyddo o’r BBC fis Ebrill, wedi derbyn 377 o luniau o natur rywiol – a 41 ohonyn nhw’n ddelweddau anweddus o blant – gan ddyn arall ar WhatsApp.

Cafodd y cyn-gyflwynydd ei arestio fis Tachwedd y llynedd, a’i gyhuddo fis diwethaf.

Yn y llys, dywedwyd ei fod wedi bod yn rhan o sgwrs ar-lein gyda dyn arall ar Whatsapp rhwng Rhagfyr 2020 ac Awst 2021, ac mai’r dyn hwnnw oedd wedi anfon y lluniau.

Cafodd ei gyhuddo o fod â saith llun categori A – y math gwaethaf o ddelweddau anweddus – ar ffôn. Roedd ganddo 12 delwedd categori B a 22 o luniau categori C hefyd.

Clywodd y llys fod y lluniau yng nghategori B a C o blant rhwng 12 a 15 oed.

Dywed Heddlu Llundain fod y cyhuddiadau hyn yn fater ar wahân i honiadau eraill gafodd eu gwneud y llynedd, oedd yn dweud iddo dalu person ifanc am luniau anweddus.

Cafodd Huw Edwards gyflog rhwng £475,000 a £479,999 rhwng Ebrill y llynedd ac Ebrill eleni, pan ymddiswyddodd.

Yn sgil yr achos, fe fu amheuon am y ffordd y gwnaeth y BBC ymdrin â’r mater.

Er bod rhai o uwch reolwyr y Gorfforaeth yn gwybod fod Huw Edwards wedi cael ei arestio fis Tachwedd y llynedd, fe barhaodd i dderbyn ei gyflog tan iddo ymddiswyddo.

Mae’r BBC wedi gofyn iddo ad-dalu £200,000 – ond hyd at yr wythnos ddiwethaf, doedd yr arian heb gael ei ddychwelyd.

Pen ac ysgwydd Huw Edwards yn edrych tua'r dde

Huw Edwards yn pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant

Mae’r cyn-gyflwynydd newyddion wedi pleidio’n euog i dri chyhuddiad mewn gwrandawiad byr yn Llundain heddiw (Gorffennaf 31)