Dylai’r cynnydd ym mhrisiau meysydd parcio Gwynedd “dargedu ardaloedd twristaidd, a pheidio cael effaith ar drigolion lleol”, yn ôl cynghorwyr.

Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ddydd Iau (Medi 12), fe fu cynghorwyr yn trafod cynlluniau arbed arian gwasanaethau parcio i ateb diffyg yn y gyllideb.

Yn 2023-24, roedd cynllun arbedion – gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd – yn ymwneud â chynyddu’r pris i barcio yn ardal dwristaidd Pen y Gwryd, Eryri, a chynnydd o £5 ym mhris blynyddol trwyddedau parcio a thrwyddedau ar gyfer meysydd parcio lleol.

Ym Mhen y Gwryd, roedd yr un ffi wedi bod yn weithredol “ers blynyddoedd” – £2 am hanner diwrnod a £4 am ddiwrnod cyfan.

“O edrych ar y ffioedd sy’n weddill ledled y sir, teimlwn ei bod yn rhesymol ac amserol i godi’r ffioedd presennol i £4 am chwe awr ac £8 am ddeuddeg awr,” meddai adroddiad.

Roedd disgwyl y byddai hyn yn cynhyrchu £40,000 ychwanegol i’r Cyngor sy’n wynebu problemau ariannol.

Bydd cynyddu cost trwyddedau blynyddol a meysydd parcio lleol gan £5 y flwyddyn hefyd yn dod â £17,000 ychwanegol i mewn.

Mae trwyddedau parcio blynyddol – fyddai’n codi o £140 i £145 y flwyddyn – yn galluogi defnyddwyr i barcio mewn unrhyw faes parcio arhosiad hir yn y sir.

Mae trwydded i barcio’n lleol yn galluogi trigolion heb le penodedig i barcio i ddefnyddio maes parcio arhosiad hir sy’n agos i’w cartrefi, ac mae disgwyl cynnydd o £70 i £75 y flwyddyn.

‘Gwerth am arian’

“Rydyn ni’n teimlo y byddai’r trwyddedau hyn yn parhau i gynnig gwerth am arian ar ôl i’r ffi gael ei gynyddu,” meddai adroddiad.

Clywodd y pwyllgor hefyd fod angen “ystyriaeth bellach” i ymdrechion i arbed arian ar gyfer 2024-25 “cyn bod modd dod i benderfyniad terfynol”.

Roedd hyn yn cynnwys ymestyn oriau gorfodi parcio ym meysydd arhosiad tymor byr y Cyngor, ac addasiadau i strwythurau ffioedd arhosiad hir.

Gallai addasu strwythur y ffioedd weld £160,000 ychwanegol yn cael ei godi, tra gallai ymestyn oriau gorfodi parcio ym meysydd parcio arhosiad tymor byr y Cyngor godi £78,000.

Clywodd y cyfarfod fod ffioedd parcio “wedi gostwng y tu ôl i chwyddiant”, ond mae cynyddu ffioedd gan 40% yn cael ei ystyried “yn ddigonol i fynd i’r afael â’r cynnydd disgwyliedig mewn chwyddiant hyd at y flwyddyn ariannol 2028-29”.

“Rhagwelir” y byddai angen codi ffioedd gan 30% i 40% yn y dyfodol.

Byddai hyn yn “bodloni targed incwm mae angen mynd i’r afael â fe drwy ffioedd, drwy feysydd parcio Talu ac Arddangos Adran yr Amgylchedd”.

“Ond ni fyddai angen ystyried hyn tan 2028-29,” meddai Dafydd Meurig, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Amgylchedd.

Mae cynlluniau’n cynnwys ymestyn yr oriau gorfodi mewn rhai meysydd parcio tymor byr o 10yb-4yp i 9yb-5yp.

Deiseb

Dywedodd Linda Morgan, Cynghorydd De Dolgellau, ei bod hi’n cytuno â chynnydd mewn mannau twristaidd fel Pen Y Gwryd, ond yn anghytuno lle byddai costau cynyddol yn cael effaith ar drigolion lleol.

“Efallai y gallwn ni ddod o hyd i ragor o feysydd parcio tebyg i [Ben y Gwryd],” meddai.

“Mae ymwelwyr yn cynllunio’u siwrne, yn gwybod faint sy’n rhaid iddyn nhw ei dalu a beth sydd ar gael; mae’r golygfeydd yn wych yno, rhaid bod meysydd parcio eraill fel hwnnw y gallech chi fynd amdanyn nhw.”

Roedd hi’n gwrthwynebu newid yr oriau gorfodi i 9yb-5yp, gan nodi achos Dolgellau, lle mae hi’n dweud bod angen i bobol leol barcio i gael mynediad at siopau a gwasanaethau, ar ôl colli gwasanaethau bws.

“Roedd 99 o lofnodion ar ddeiseb yn gofyn i’r parcio yn y dref fynd o un awr i ddwy awr, er mwyn helpu pobol leol,” meddai.

“Roeddwn i’n anghytuno â chynyddu costau parcio gan 30% i 40%.

“Mae parcio’n broblem yn Nolgellau; mae gennym ni ormod o linellau melyn, rydych chi’n mynd o’i le yn rhywle.

“Pen y Gwryd, ie, ond pan fo’n effeithio ar bobol leol, na.

“Y cynnydd yn y drwydded i £145 – fydd pobol jyst ddim yn ei dalu fo.

“Fy mhrif ofid ydy pobol sy’n methu fforddio’r drwydded; rydych chi’n dweud ei fod o’n bris da, ond dydy o ddim i bobol leol.”

Targedu ardaloedd twristaidd

Roedd y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts hefyd yn teimlo y dylai’r Cyngor “dargedu ardaloedd twristaidd”.

Roedd y Cynghorydd Dafydd Meurig “yn deall yr egwyddor” o edrych ar ardaloedd twristaidd.

Roedd hi’n “haws mewn rhai llefydd nag eraill”, meddai, gan ychwanegu bod Dolgellau mewn “sefyllfa unigryw”.

“Efallai bod modd gwneud rhywbeth, yn nhermau edrych ar feysydd parcio penodol,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod angen i ni fod ychydig yn fwy ysgafn droed tros hyn,” meddai’r Cynghorydd Stephen Churchman.

“Dw i’n derbyn na allwch chi godi ffioedd gan geiniogau bob tro mae chwyddiant yn mynd i fyny, ond yr hiraf rydych chi’n gadael i chwyddiant redeg i ffwrdd, y mwyaf yw’r effaith ar bobol.”

Dywedodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai eu bod nhw “eisiau i bobol ddefnyddio ein meysydd parcio – rydyn ni eisiau rhoi pobol Gwynedd yn gyntaf”.

“Pam na fedrwn ni gael uchafswm o ddwy awr – fel y gall pobol fynd am baned?”

Roedd hi hefyd wedi cwestiynu’r gyfradd am arhosiad dros nos hyd at 24 awr i gamperfaniau, gan ychwanegu, “Dylen ni fod yn codi mwy ar gyfer twristiaid na phobol leol.”

“Dw i’n derbyn nad ydy hi’n hawdd ystyried cynnydd o 30%-40%.

“Mae’r gyllideb yn cynyddu’n unol â chwyddiant, mae’r ffioedd ar ei hôl hi, a bydd angen i ni ddal i fyny yn y pen draw.”