Pobol ifanc dan 22 oed i deithio am ddim ar fysiau, ceisio datganoli Ystâd y Goron a blaenoriaethu gosod pympiau gwres mewn cartrefi preifat yw rhai o argymhellion arbenigwyr amgylcheddol ar sut i gyrraedd sero net yn gyflymach.
Bydd cyrraedd sero net erbyn 2035 yn gofyn am “newid sylweddol” mewn uchelgais gan Lywodraeth Cymru, medd adroddiadau newydd gan grŵp o arbenigwyr amgylcheddol.
Nod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cyrraedd sero net erbyn 2050, ac mae ganddyn nhw gynlluniau i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn un sero net erbyn 2030.
Mae cyfres o adroddiadau dan arweiniad Jane Davidson, cyn-Weinidog yr Amgylchedd Cymru, wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Medi 16).
Adnewyddu a chyflymu dulliau sero net
Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio, a’r nod yw adnewyddu a chyflymu dull Cymru o gyrraedd sero net.
Mae’r adroddiadau gan Grŵp Her Sero Net yn cwmpasu sectorau megis addysg, bwyd, ynni, adeiladau a thrafnidiaeth yn eu hymchwil, ac mae eu prif ganfyddiadau’n cynnwys nodi:
- y bydd sicrhau net sero erbyn 2035 yn gofyn am newid sylweddol mewn uchelgais gan Lywodraeth Cymru, cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a mandad cymdeithasol mwy;
- bod buddion enfawr i’r cyhoedd drwy newid i sero net, gan gynnwys gwella iechyd y cyhoedd, llai o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mwy o ddiogelwch ynni, cyflenwad bwyd mwy gwydn, a chreu swyddi carbon isel;
- bod angen gweithredu ar frys i sicrhau bod Cymru’n cyfleu gwerth a manteision sero net.
Dros y 21 mis diwethaf, mae tîm o wirfoddolwyr sy’n arbenigo ar yr amgylchedd wedi cydweithio i argymell ffyrdd o weithio dros y deng mlynedd nesaf.
Mae’r dogfennau sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys saith adroddiad; a chaiff y prif bynciau ac argymhellion eu crynhoi yn y ddogfen amlinellol.
Sut all addysg, swyddi a gwaith edrych erbyn 2035?
- Cyflwyno Cyflog Uwchsgilio Gwyrdd Cenedlaethol ar gyfer cefnogi profiad gwaith, prentisiaethau ac astudio llawn amser yn y sector amgylcheddol er mwyn annog pobol i uwchsgilio
- Sefydlu Grwpiau Gweithredu Hinsawdd o academyddion a myfyrwyr ym mhob awdurdod lleol erbyn 2030 er mwyn cynnwys addysg hinsawdd ym mhob pwnc Safon Uwch.
Sut all Cymru fwydo’i hun erbyn 2035?
- Rhoi cefnogaeth ariannol hirdymor a chytundeb tenantiaeth estynedig i ffermwyr a thyfwyr
- Blaenoriaethu bwyd sy’n cael ei greu’n gynaliadwy a lleol drwy broses gaffael gyhoeddus
- Gwella’r gwerthfawrogiad o fwyd o fewn y system addysg.
Sut all Cymru ddiwallu anghenion ynni a dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035?
- Cynyddu capasiti cynllunio a symleiddio’r broses gydsyniad wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy
- Ceisio datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru a sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymru, gan ailfuddsoddi incwm o brosiectau ynni adnewyddadwy ar gyfer manteision hirdymor cenedlaethau’r dyfodol.
Sut all Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
- Blaenoriaethu gosod pympiau gwres mewn cartrefi preifat ac uwchraddio ffabrig adeiladu i ostwng biliau
- Ariannu inswleiddio ar gyfer cartrefi sydd ag effeithlonrwydd gwres gwael
- Lansio benthyciad gwyrdd llog isel i berchnogion tai
- Cefnogi crefftwyr i ymuno â’r gweithlu gwres ac ôl-osod, a gweithio gyda cholegau i ddatblygu hyfforddiant i bobol ifanc
Sut all pobol a lleoedd gael eu cysylltu ledled Cymru erbyn 2035?
Teithio llai:
- Hybu cysylltedd digidol fel bod modd defnyddio’r we i gysylltu â phobol a gwasanaethau
- Cefnogi’r lleol drwy gefnogi siopau a gwasanaethau er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobol weithio, siopa a mwynhau eu hunain heb orfod gyrru.
Teithio’n wahanol:
- Buddsoddi mewn prisiau tecach ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio am ddim ar fysiau i bawb dan 22 oed a grwpiau difreintiedig eraill
- Gwelliannau lleol i’r ffyrdd, gan gynnwys strydoedd ysgol a chanol dinasoedd heb geir, gan ei gwneud hi’n fwy diogel a chyfleus i gerdded neu feicio
- Defnyddio mesurau ariannol, megis taliadau parcio uwch, er mwyn gwneud gyrru’n llai deniadol.
Teithio’n well:
- Sefydlu e-ganolfannau drwy weithio â chymunedau sy’n dibynnu ar geir i gynnig cerbydau trydan cymunedol i bobol
- Cymell cludo nwyddau ar y rheilffyrdd yn hytrach nag ar y ffyrdd
- Gosod Cymru fel arweinydd Tanwydd Hedfan Cynaliadwy drwy sefydlu Canolfan Ragoriaeth ym Maes Awyr Caerdydd a ffatri gynhyrchu ym Mhort Talbot.
‘Lleihau’r niwed’
Dywed Jane Davidson, cadeirydd y Grŵp Her Sero Net 2035, fod y gwaith wedi canolbwyntio’n benodol ar gyflawni trawsnewidiad cadarnhaol sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Ein huchelgais fu disgrifio llwybrau a fydd yn sicrhau manteision i bobol Cymru yn ogystal â gostyngiadau allyriadau mesuradwy,” meddai’r cyn-Aelod Llafur o’r Cynulliad fu’n cynrychioli Pontypridd rhwng 1999 a 2011.
“Er bod y gwaith hwn yn benodol i Gymru, mae gostyngiadau allyriadau mesuradwy yn hanfodol i ni i gyd os ydym am leihau niwed i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
“Gobeithiwn y bydd ein gwaith, gafod ei gyhoeddi cyn Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd a COP29 eleni yn Azerbaijan, yn helpu Cymru a gwledydd eraill o bob maint i ystyried canolbwyntio ar gamau gweithredu go iawn fel rhan o lwybrau go iawn i gyflawni.”
‘Cyflymu’r gweithredu’
Ychwanega Ysgrifennydd y Grŵp fod y gwaith yn cynnig pragmatiaeth wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Bu Stan Townsend yn gweithio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar strategaethau sero net, polisïau economi gylchol ac economi werdd.
“Trwy archwilio sut i gyrraedd sero net yn gynharach na 2050, rydym wedi tynnu sylw at sut y gallai Cymru gyflymu gweithredu i fynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd, gan ddangos na ddylai’r cyflymiad hwn aros mwyach os ydym am fanteisio ar y budd-daliadau, lleihau’r costau a sicrhau trosglwyddiad cyfiawn,” meddai.
“Hoffwn bwysleisio ein bod wedi gweithio am bontio sero net sydd hefyd yn mynd i’r afael â heriau cysylltiedig megis iechyd y cyhoedd, anghydraddoldeb, sefydlogrwydd economaidd a’r argyfwng natur. Dyma mae pobol Cymru yn ei haeddu.
“Fel gor-ŵyr i löwr o gymoedd de Cymru, dw i ddim am weld yr hen hanes o drawsnewidiadau anghyfiawn yn cael ei ailadrodd.
“Mae angen agwedd newydd tuag at newid yn yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy er mwyn osgoi hyn, a dyna mae ein gwaith yn ei gynnig.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.