Mae Huw Edwards wedi derbyn dedfryd o garchar am chwe mis, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.
Daw hyn ar ôl iddo bledio’n euog i droseddau rhyw yn ymwneud â delweddau o blant.
Bydd cyn-gyflwynydd y BBC hefyd yn destun rhaglen driniaeth i droseddwyr rhyw a 25 sesiwn o adferiad, ac yn cael ei gofrestru ar y rhestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.
Fe wnaeth Huw Edwards gyfaddef bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant ym mis Gorffennaf, a chael ei ddedfrydu gan y Prif Ynad yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain heddiw (dydd Llun, Medi 16).
Fe wnaeth Paul Goldspring dderbyn bod gan y cyn-gyflwynydd broblemau iechyd meddwl ar y pryd.
Dywedodd y Prif Ynad ei fod yn derbyn bod y dystiolaeth yn cadarnhau nad yw Huw Edwards yn cofio pa luniau wnaeth o eu gweld yn sgil ei gyflwr meddyliol ar y pryd.
Yn gynharach, clywodd y llys fod Huw Edwards wedi talu cannoedd o bunnoedd i Alex Williams am luniau.
Ar un pwynt, dywedodd Alex Williams fod ganddo luniau “drwg” ac “ifanc”, ac atebodd Huw Edwards drwy ddweud: “Go on”.
Roedd y rhan fwyaf o’r plant rhwng 13 a 15 oed, ond roedd un rhwng saith a naw oed, a bu’r ddau ddyn yn cyfathrebu rhwng 2018 a 2022.
Fis Gorffennaf, fe wnaeth y cyn-gyflwynydd bledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Clywodd y llys bryd hynny fod Huw Edwards, oedd wedi ymddiswyddo o’r BBC ym mis Ebrill, wedi derbyn 377 o luniau o natur rywiol – a 41 ohonyn nhw’n ddelweddau anweddus o blant ar Whatsapp.
Roedd saith o’r lluniau yng nghategori A, y math gwaethaf, 12 i gategori B a 22 i gategori C.
Y dedfrydu
Wrth ddyfynnu therapydd seicorywiol, sy’n arbenigwr yn yr achos, dywedodd y Prif Ynad fod Huw Edwards wedi bod mewn “storm berffaith” pan fu’n troseddu.
Mewn adroddiad i’r llys, dywedodd yr arbenigwr bod yna berygl i Huw Edwards gymryd ei fywyd a’i fod yn “unigolyn cymhleth” yn sgil ffactorau seicolegol sy’n deillio o’i blentyndod – gan gynnwys ei berthynas â’i dad “piwritanaidd”.
Ychwanegodd yr arbenigwr ei fod wedi dangos cywilydd ac edifeirwch am ei weithredoedd, a dywedodd ei gyfreithiwr yn gynharach fod Huw Edwards yn “ymddiheuro’n ddiffuant”.
O ran y ffactorau gwaethygol, nododd y Prif Ynad fod y lluniau’n rhai oedd yn symud, oedd yn cynyddu’r ddedfryd.
Wrth gyfeirio at y ffactorau lliniarol, dywedodd y Prif Ynad nad oes ganddo unrhyw gyhuddiadau blaenorol, ei fod wedi stopio derbyn y lluniau o’i wirfodd a’i fod wedi dangos edifeirwch ac anhwylder meddyliol.
Dywedodd hefyd y byddai’n agored i niwed yn y carchar.
Ar ôl cyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd Paul Goldspring nad yw Huw Edwards yn peri risg i’r cyhoedd nac i blant.
Datganiadau Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r BBC
“Mae cael mynediad at ddelweddau anweddus o blant yn parhau i’w hecsbloetio nhw’n rhywiol, sydd yn arwain at drawma dwfn, hirdymor i’r dioddefwyr hyn,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.
“Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu Llundain wedi gallu profi bod Edwards yn derbyn delweddau a fideos anghyfreithlon yn ymwneud â phlant dros WhatsApp.
“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, wrth weithio ochr yn ochr â’r heddlu, yn gweithio i ddwyn i gyfiawnder y rheiny sy’n ceisio ecsbloetio plant, lle mae’r gamdriniaeth honno’n digwydd.”
Dywed y BBC eu bod nhw “wedi’u ffieiddio gan ei droseddau”.
“Nid yn unig mae e wedi bradychu’r BBC, ond cynulleidfaoedd oedd wedi ymddiried ynddo,” meddai llefarydd.