Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio am droseddau gwledig, wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliadau ym Mhowys.

Maen nhw’n ymchwilio i bum achos o fwrgleriaeth a dwyn eitemau megis beiciau pedair olwyn, trelars ac offer trydanol.

Mae’r heddlu’n annog y gymuned amaeth i sicrhau bod eu heiddo ac eitemau gwerthfawr dan glo, ac i ofalu lle mae eitemau o’r fath yn cael eu storio.

Maen nhw’n dweud bod troseddwyr yn aml yn mynd i safleoedd cyn cyflawni troseddau.

O ganlyniad i hynny, maen nhw’n annog ffermwyr i osod camerâu cylch-cyfyng a goleuadau diogelwch ar eu ffermydd.

Dylid creu rhestr o eiddo a chofnodi unrhyw rifau arnyn nhw i’w hadnabod, a thynnu llun o bob darn o eiddo, a dylid dileu unrhyw fanylion personol sy’n weladwy mewn ffotograffau ac ar eiddo.

Dylid osgoi parciau cerbydau amaethyddol ger ffyrdd cyhoeddus pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.

Dylid cloi gatiau ffermydd yn ddiogel.

Dylid hefyd osod dyfeisiau tracio ar feiciau pedair olwyn a cherbydau eraill, wrth i’r heddlu ddweud mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o ddod o hyd i gerbydau sydd wedi cael eu dwyn.

Yn bennaf oll, mae’r heddlu’n annog pobol i roi gwybod iddyn nhw am droseddau fel bod modd cynnal ymchwiliad.