Mae aelod seneddol diweddaraf Gwent wedi rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd sir, allai arwain at is-etholiad mewn Cyngor Sir sy’n cael ei arwain gan Lafur.
Cafodd Catherine Fookes ei hethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Fynwy yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, pan gurodd hi David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru, gan gipio’r sedd â mwyafrif o 3,338.
Yn fuan ar ôl ei hethol, ceisiodd gwrthblaid Geidwadol Cyngor Sir Fynwy orfodi pleidlais gan alw ar yr aelod seneddol i bennu dyddiad ar gyfer ymddiswyddo o’i sedd yn ward Trefynwy yn yr awdurdod lleol.
Cafodd y cynnig ei drechu a’i wfftio fel “grawnwin surion”, ond dywedodd Catherine Fookes wrth y Cyngor ei bod hi’n bwriadu ymddiswyddo “ar adeg briodol”, gan fynnu na ddylid cynnal is-etholiad cyngor yn ystod gwyliau’r haf.
Mae hi bellach wedi cyflwyno’i hymddiswyddiad i Gyngor Sir Fynwy, sydd wedi cyhoeddi “hysbysiad o swydd wag” ar gyfer sedd ward y dref.
Beth yw’r sefyllfa yn Sir Fynwy?
Mae gan Lafur 22 allan o 46 sedd y Cyngor, wedi iddyn nhw ddod i rym yn rhan o weinyddiaeth leiafrifol yn etholiadau llywodraeth leol 2022, ac maen nhw’n rhedeg y Cyngor yn rhan o glymblaid ag un aelod o’r Blaid Werdd, sy’n eistedd yn y Cabinet sydd mewn grym.
Mae Ian Chandler, cynghorydd y Blaid Werdd, yn rhan o grŵp ‘Gwyrdd Annibynnol’ gyda’r aelod annibynnol dros Frynbuga, Meirion Howells, ac mae ei bleidlais wedi bod yn hanfodol wrth wneud nifer o benderfyniadau sydd wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor llawn.
Pe bai Llafur yn colli’r sedd yn y ward, fe allai wneud y broses o gael sêl bendith i benderfyniadau’n fwy anodd.
Ymhlith y pleidleisiau hanfodol sydd ar y gweill mae penderfyniad ym mis Hydref i gymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn arwain y ffordd ar gyfer miloedd o gartrefi newydd yn y sir.
Enillodd y Ceidwadwyr, sydd â deunaw sedd yn Neuadd y Sir, yr is-etholiad yn y ward ar gyfer Cyngor Trefynwy fis Mehefin eleni.
Bydd is-etholiad yn cael ei alw i lenwi’r sedd ar y Cyngor Sir pe bai dau etholwr o’r awdurdod lleol yn gofyn am ei gynnal.
Does dim terfyn amser i dderbyn y ceisiadau, ond pe na bai’r nifer angenrheidiol yn cael eu derbyn, bydd y sedd yn parhau’n wag.
Ymddiswyddiad
Cafodd ymddiswyddiad Catherine Fookes ei gadarnhau drwy gyhoeddi’r hysbysiad ac yng nghyfarfod Pwyllgor Safonau’r Cyngor heddiw (dydd Llun, Medi 16).
Gofynnodd Marian Gibson, aelod annibynnol o’r pwyllgor y bu Catherine Fookes yn aelod ohono, a yw’r aelod seneddol newydd yn bwriadu parhau’n aelod yn dilyn ei hetholiad.
Pan ddywedwyd wrthi bod disgwyl y byddai Catherine Fookes yn ymddiswyddo, gofynnodd a oes “terfyn amser” i gyflwyno’i hymddiswyddiad.
Dywedodd Rhian Williams, aelod annibynnol arall o’r pwyllgor, ei bod hi wedi darllen “yn y wasg yn lleol” fod Catherine Fookes yn bwriadu ymddiswyddo, ond nad oedd hi wedi dweud pryd y byddai hi’n gwneud hynny, gan ddweud: “Mae’n sicr yn gyhoeddus mai dyna ei bwriad.”
Dywedodd Marian Gibson ei bod hi’n “ymwybodol fod y pwyllgor yn colli elfen o fewnbwn”, gan ddweud “na ddylai hyn redeg a rhedeg, er lles ein pwyllgor” gan nad oedd Catherine Fookes wedi rhoi dyddiad [ymddiswyddo].
Dywedodd Fay Bromfield, aelod Ceidwadol o’r pwyllgor a chynghorydd Llangybi Fawr, ei bod hi’n “bwysig” fod y pwyllgor yn gytbwys ac y dylid cynnal trafodaeth â Mary Ann Brocklesby, arweinydd Llafur y Cyngor, ynghylch pryd fyddai’r Grŵp Llafur yn enwebu olynydd.
Ar ddiwedd y cyfarfod, ryw 40 munud wedi’r penderfyniad, dywedodd Geraint Edwards, dirprwy swyddog monitro’r Cyngor, ei fod e wedi gwirio’i e-byst ac y gallai gadarnhau bod Catherine Fookes wedi cyflwyno’i hymddiswyddiad o fod yn gynghorydd sir.