Dylai Prif Weinidog newydd Cymru ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fynd i’r afael â rhestrau aros, yn ôl Plaid Cymru.
Heddiw (dydd Mawrth, Medi 17), mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd y blaid, wedi manylu ar ei flaenoriaethau i Eluned Morgan.
Yn ôl yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, mae angen “dechrau ffres” ar Gymru rhag y Blaid Lafur.
Bydd Eluned Morgan yn wynebu ei sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog gyntaf am 1:30yp, wedi i Blaid Cymru gynnal cynhadledd i’r wasg fore heddiw.
Mae’r blaenoriaethau mae’r blaid yn disgwyl i’r Prif Weinidog weithredu arnyn nhw’n cynnwys:
- rhoi cerydd cyhoeddus i Syr Keir Starmer am dorri taliadau Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr a chynnal y cap dau blentyn, a galw am newid y polisïau hynny;
- dweud wrth Ganghellor San Steffan pa effaith fydd cyni pellach yn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus, a mynnu fformiwla ariannu newydd a theg i Gymru yn lle Fformiwla Barnett;
- diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fynd i’r afael â rhestrau aros.
‘Angen hydref o weithredu’
Yn ei anerchiad i’r wasg, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth ddweud nad ydy gwaddol llywodraethau Llafur Cymru “erioed wedi bod yn gliriach”, gan alw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn uwch nag erioed,” meddai.
“Mae gostyngiad sylweddol wedi bod mewn safonau yn ein hysgolion.
“Mae cyflogau yma yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
“Ar ôl gaeaf o anfodlonrwydd a haf o dawelwch, mae dirfawr angen hydref o weithredu gan y Llywodraeth Lafur hon.
“Mae hyn yn golygu dal Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn atebol drwy gondemnio toriad Keir Starmer i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, fydd yn effeithio ar 400,000 o aelwydydd yng Nghymru.
“Mae’n ymwneud â rhoi gwlad o flaen buddiannau pleidiol, drwy fynnu tegwch ariannol i Gymru a diwygio Fformiwla Barnett, HS2, a datganoli Ystâd y Goron a phlismona.
“Ac mae’n golygu mynd i’r afael â materion sylfaenol, fel diwygio’r Gwasanaeth Iechyd i leihau rhestrau aros, yn hytrach na phwyntio bys.
“Mae dŵr coch clir rhwng Llafur yng Nghymru a Keir Starmer yn brin, ac oni bai bod y Prif Weinidog yn fwy llafar ac yn gweithredu gyda gwir fwriad wrth sefyll i fyny i benderfyniadau Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig sy’n gyrru pensiynwyr i dlodi a gwasanaethau cyhoeddus i’r llawr, bydd y ffynnon yn sych.”
Ychwanega Rhun ap Iorwerth fod Llafur wedi cael cyfle i lywodraethu Cymru, a’i bod hi’n amlwg nad ydy pethau’n gweithio.
Mae angen llywodraeth newydd ar Gymru, meddai – “un fydd yn sefyll i fyny i San Steffan i fynnu tegwch, un fydd yn buddsoddi mewn gofal iechyd ataliol, un fydd yn canolbwyntio ar ddenu cyfoeth, meithrin sgiliau newydd, codi cyflogau, cefnogi busnesau bach, ac annog myfyrwyr i adeiladu eu dyfodol yma yng Nghymru.”
“Mae angen dechrau newydd ar Gymru a llywodraeth newydd gyda’r syniadau, yr egni a’r uchelgais sydd eu hangen i drawsnewid pethau – a Phlaid Cymru fydd y llywodraeth honno.”