Mae dyn o ardal Casnewydd wedi’i gael yn euog o drosedd frawychol.

Ar ôl achos oedd wedi para pythefnos yn Llys y Goron Winchester, cafwyd Daniel Niinmae o Risga yn euog o fod â dogfen yn ei feddiant oedd yn cynnwys gwybodaeth fyddai’n debygol o fod o ddefnydd i berson sy’n paratoi neu’n cyflawni gweithred o frawychiaeth.

Cafwyd e’n euog o dorri Rhan 58 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru.

Yn yr achos yn Winchester, cafwyd e’n ddieuog o ddwy drosedd o ledaenu cyhoeddiad terfysgol.

Bydd Daniel Niinmae yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Winchester ddydd Mercher, Tachwedd 27.