Mae un o gynghorau sir cymoedd y de yn ystyried gorfodi perchnogion eiddo fu’n wag am fwy na thair blynedd i dalu tair gwaith y gyfradd safonol o dreth y cyngor.

Mae cynnig gerbron Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Iau (Medi 19) hefyd yn argymell codi dwywaith y gyfradd safonol o dreth gyngor ar eiddo fu’n wag rhwng blwyddyn a thair blynedd.

Y cynnig yw fod y premiwm yn cael ei osod ar 100% ar gyfer y rhai fu’n wag rhwng blwyddyn a thair blynedd, fel y byddai’n dyblu’r gyfradd safonol o dreth gyngor.

Byddai lefel y premiwm wedyn yn codi ac yn cael ei osod ar 200% ar gyfer eiddo fu’n wag ers dros dair blynedd (tair gwaith y gyfradd safonol).

Y sefyllfa a’r hyn sy’n cael ei gynnig

Dywed adroddiad y Cyngor fod 1,065 o eiddo yn Rhondda Cynon Taf fu’n wag am gyfnod o hyd at chwe mis, 608 rhwng saith a deuddeg mis, 586 rhwng blwyddyn a dwy flynedd, 247 rhwng dwy flynedd a thair blynedd, 226 rhwng tair a phum mlynedd, a 459 ers dros bum mlynedd.

Mae cynnig hefyd y dylai lefel y premiwm ar ail gartrefi aros ar 100%.

Y cynnig yw y byddai newidiadau i’r premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn cael eu cyflwyno ac y bydden nhw’n weithredol o fis Ebrill 2025.

Byddai’r Cyngor yn ysgrifennu at bob perchennog unwaith fyddai penderfyniad yn cael ei wneud, i’w cynghori nhw ynghylch y newidiadau i ddod.

Dywed adroddiad y Cabinet y gallai’r Cyngor gymryd camau uniongyrchol i ymyrryd mewn sefyllfa lle nad oes gobaith gwirioneddol y byddai perchennog yn cymryd camau i ailddefnyddio’r eiddo.

Gallai hyn gynnwys camau Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO), felly y cynnig yw fod y Cyngor yn rhoi trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn ystyried y defnydd o’r fath bwerau mewn amgylchiadau priodol a phenodol er mwyn esgor ar y newid a’r ailddefnydd hwnnw mae mawr ei angen.

Bydd hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth i bartneru â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Byddai’r newidiadau i lefel y premiwm yn dod â refeniw ychwanegol o ryw £750,000 y flwyddyn drwy dreth y cyngor, ond bydd hyn yn destun adolygiad a chadarnhad yn seiliedig ar eithriadau.

Byddai refeniw ychwanegol sy’n cael ei godi’n cefnogi parhad strategaeth eiddo gwag y Cyngor, medd yr adroddiad.

Ymgynghoriad

Ar y cyfan, daeth 157 o ymatebion i’r ymgynghoriad i law, ac roedd 53% yn berchnogion eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r ymgynghoriad yn dangos bod 57.5% o’r holl ymatebwyr yn anghytuno â’r cynnig i godi premiwm o 100% ar yr eiddo hynny fu’n wag ers rhwng blwyddyn a thair blynedd a 200% ar gyfer eiddo fu’n wag ers dros dair blynedd.

Dywed yr adroddiad fod y rhan fwyaf o bobol oedd wedi nodi eu bod nhw’n drigolion yn fwy tebygol o gytuno (66.2%) na’r sawl oedd yn ymateb yn uniongyrchol fel perchnogion eiddo gwag (10.4%).

Y rhesymau mwyaf cyffredin am anghytuno oedd amgylchiadau personol, goblygiadau’r gost, adnewyddu eiddo, gwerthiant neu’r farchnad, a chymorth neu gefnogaeth.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn dangos bod 59.8% o’r holl ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig y dylai’r Cyngor ddefnyddio pwerau megis Gorchymyn Prynu Gorfodol o dan amgylchiadau penodol ac fel ymyrraeth bellach i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd, ac mae’r rhan fwyaf o bobol oedd wedi nodi eu bod nhw’n drigolion yn fwy tebygol o gytuno â’r cynigion hyn (76.9%) na pherchnogion eiddo gwag (40.3%).

Roedd y rhan fwyaf o drigolion oedd wedi cymryd rhan yn cytuno â’r cynnig i gynyddu’r premiwm o Ebrill 1, 2025 (64.6%), gyda dim ond 19.4% o berchnogion eiddo gwag yn cytuno.

Roedd y rhan fwyaf o drigolion yn cytuno â’r dull ar gyfer y refeniw ychwanegol i gefnogi parhad strategaeth eiddo gwag y Cyngor (66.2%), o gymharu â 22.4% o berchogion eiddo gwag.

Y premiwm

Ers Ebrill 2017, fe fu modd i gynghorau yng Nghymru godi symiau uwch (premiwm) o hyd at 100% ar ben y gyfradd safonol o dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, ac o fis Ebrill 2023 cafodd hyn ei gynyddu i 300% gan Lywodraeth Cymru.

Mae p’un a ddylid codi premiwm ar ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor (neu’r ddau) yn benderfyniad i bob cyngor unigol, ac mae rhai eithriadau i’r premiwm.

Fis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar y cynnig i gynyddu lefel premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor sy’n destun ardoll ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf.