Flwyddyn union ers i gyfyngiadau 20m.y.a. ddod i rym ar rai ffyrdd yng Nghymru, mae cefnogaeth gyffredinol mewn un dref yn y gogledd, ond amheuon a oes angen cyfyngiadau mor eang.
Cafodd nifer o ffyrdd 30m.y.a. mewn ardaloedd trefol neu breswyl eu troi’n rhai 20m.y.a. ar Fedi 17 y llynedd, ac mae’r polisi wedi bod yn un dadleuol ers hynny.
Yn ôl yr heddlu, mae llai o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffyrdd Cymru a llai wedi’u hanafu yn sgil gwrthdrawiadau, sy’n dangos bod y polisi’n gweithio.
Fodd bynnag, dangosodd arolwg diweddar fod saith ym mhob deg person dal yn gwrthwynebu’r cyfyngiadau newydd.
Pan gafodd y newid ei wneud ar ryw 35% o ffyrdd Cymru’r llynedd, dywedodd gweinidogion y llywodraeth y byddai’n lleihau marwolaethau a sŵn, ac yn annog pobol i gerdded neu feicio.
Bydd rhai ffyrdd yn newid yn ôl i rai 30m.y.a. wedi’r gwrthwynebiad, ac mae cynghorau wedi derbyn £5m ychwanegol i ailasesu’r cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd 20m.y.a.
Yn ôl y BBC, mae awdurdodau lleol wedi derbyn dros 10,500 o geisiadau yn gofyn iddyn nhw ystyried newid y cyfyngiadau’n ôl i 30m.y.a. ar 1,500 rhan o’r ffyrdd.
🚗 Flwyddyn union ers i gyfyngiadau 20m.y.a. ddod i rym ar rai ffyrdd yng Nghymru, mae cefnogaeth gyffredinol mewn un dref yn y gogledd, ond amheuon a oes angen cyfyngiadau mor eang
Ym Mlaenau Ffestiniog, mae’r ffordd yn 20m.y.a. am oddeutu milltir a hanner ar hyd yr A470… pic.twitter.com/86432uVlEP
— Golwg360 (@Golwg360) September 17, 2024
‘Ddim angen o’n bob man’
Ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd, mae’r ffordd yn 20m.y.a. am oddeutu milltir a hanner ar hyd yr A470.
Dywed trigolion lleol a phobol ar eu gwyliau eu bod nhw’n gefnogol i’r syniad ar y cyfan, ond eu bod nhw’n cwestiynu a oes angen y cyfyngiad ym mhob man.
“Dw i’n meddwl bod o’n beth da rownd ysgolion a ballu,” meddai Lee Cunnington, sy’n rhedeg cwmni cludo Lee a’i Fan ac yn gyrru ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, wrth golwg360.
“Pan wyt ti’n mynd drwy’r pentrefi bach yma, yn enwedig pan wyt ti’n mynd lawr i dde Cymru, mae gen ti’r 20m.y.a. yn bob man – mae o’n cymryd am byth i fynd lawr yna.
“Dwed bo chdi eisiau mynd i Lanelli neu rywbeth, mae o’n adio awran dda ar dy siwrne di.
“Dw i’n meddwl bod o’n beth da o ran mae o’n achub bywydau, ond dw i ddim yn meddwl bod angen o drwy’r stryd fawr i gyd.
“Mae o’n arafu chdi lawr ar siwrne hir, ond dw i wedi sylwi ar ochr arall yr arwydd 20m.y.a., mae pobol yn rhoi eu traed lawr ac mae o fwy peryg ochr arall i’r 20m.y.a.
“Mae o’n saffach yn mynd drwy’r dref efallai, ond pan wyt ti’n cyrraedd ochr arall yr 20m.y.a, mae pawb yn bomio mynd yn trio dal fyny efo’r amser maen nhw wedi’i golli’n mynd 20.
“Mae yna bethau da iddo fo, mae yna bethau drwg iddo fo – arafu chdi ydy’r syniad, ac mae o’n gweithio am wn i, ond dw i ddim yn meddwl bod angen o yn bob man.”
Mae ystadegau’n dangos bod llai o bobol wedi cael eu hanafu ar ffyrdd 20m.y.a. a 30m.y.a. yng Nghymru yn ystod tri mis cyntaf 2024, a bod nifer yr anafiadau difrifol neu farwolaethau wedi gostwng 23%.
“Dw i’n licio’r syniad ohono fo, ond dw i’n meddwl y dylen nhw ei gadw fo ar gyfer llefydd fel ysgolion, ysbytai, llefydd lle mae yna bobol yn hel,” meddai Nathan Jones wrth golwg360, gan ychwanegu bod y dystiolaeth o ran gwrthdrawiadau ac anafiadau’n dangos ei fod yn gweithio.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni angen o yn Blaenau drwy’r stryd fawr.
“Dw i yn licio fo, ond dw i ddim yn meddwl bod o’n angenrheidiol yn bob man.”
‘Arafu’r ffyrdd methu bod yn beth drwg’
Mae Gwenlli Evans yn byw ar yr A470 yn y Manod ger Blaenau Ffestiniog, lle mae’r ffordd wedi newid o fod yn 30m.y.a. i 20m.y.a.
“Dw i’n meddwl bod o wedi arafu’r ffyrdd i lawr; fedrith hynny ddim bod yn beth drwg,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n byw ar yr A470, mae hi’n ffordd brysur, ond mae o’n gwneud i chdi sylwi ar y ceir sy’n mynd yn gyflymach.
“I fi, mae’r syniad o wneud y ffyrdd yn saffach yn well na bod pum munud yn gynharach yn cychwyn gyrru.”
‘Cyflymda a thwpdra’n lladd’
Mae Phil ac Adam Smith o Dorset, sy’n gweithio i’r heddlu a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ar eu gwyliau yng Nghymru.
Dywed Phil Smith ei fod yn meddwl bod y cyfyngiadau’n syniad da mewn pentrefi bychain, ond fod ganddo amheuon hefyd am ei werth ar ffyrdd lletach.
“Dw i wedi cario cyrff i’r marwdy o ddamweiniau ffyrdd,” meddai.
“Yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn gweld dioddefwyr damweiniau ffyrdd yn aml – cyflymdra a thwpdra sy’n lladd, yn enwedig mewn pentrefi bychain lle mae plant.
“Anifeiliaid anwes hefyd, mae dwy o’n cathod ni wedi cael eu lladd.
“Roedd pobol yn arfer gyrru lawr ein stryd ni, sy’n 30m.y.a., a chafodd dwy o’n cathod ni eu lladd mewn ardal drefol 30m.y.a.
“Mewn mannau penodol, dw i’n meddwl bod o’n dda. Llefydd mwy a lletach, efallai nad ydy o cystal.
“Mae’n dibynnu ar y lleoliad, dyna fy marn i.”
Ychwanega ei bod hi’n bwysig cael arwyddion clir, a’i fod yn meddwl ei fod wedi sylwi ar bob arwydd ers bod yn gyrru yng Nghymru.
Dywed ei fab fod y cyfyngiadau’n “beth da iawn” mewn egwyddor, ond eu bod yn gallu bod yn anymarferol o ystyried faint o geir sydd ar y ffyrdd.
“Mae diogelwch yn hollbwysig, yn enwedig wrth ymyl ysgolion.
“Adre yn Lloegr, dylai fod yn 20m.y.a. o amgylch ysgolion, meysydd chwarae ac ardal lle mae pobol ifanc yn ymgasglu.
“Mae o ychydig yn wahanol wrth siarad am drefi neu bentrefi cyfan.
“Ond yn y pen draw, mae o’n beth da, mewn theori, yn yr ardaloedd hyn.
“Mae o jyst yn fymryn o boen pan ydych chi’n yrrwr yn trio mynd o A i B.
“A ddylen ni fesur hynny yn erbyn diogelwch? Dyna’r cwestiwn.”