Mae ymgyrchwyr sy’n gobeithio atal ysgol gynradd fwyaf gogleddol Powys rhag cau wedi cael eu herio i gyflwyno cynnig amgen allai ei chadw ar agor.
Cafodd y cynnig i ddechrau’r broses gyfreithiol o gau Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin ger Croesoswallt ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Democratiaid Rhyddfrydol/Llafur Cyngor Sir Powys heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).
Mae’r adroddiad yn eglur bod gan yr ysgol 26 o ddisgyblion, a’u bod nhw’n costio £8,831 yr un, sydd ymhell dros wariant cyfartalog y pen y sir (£4,729).
“Rydyn ni’n teimlo mai’r opsiwn gorau i fynd i’r afael â’r nifer uchel o ddisgyblion, y gyllideb uchel y pen ar gyfer pob disgybl a dosbarthiadau oed cyfun yw i blant drosglwyddo i Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant, saith milltir o Lansilin,” meddai Marianne Evans, Pennaeth Trawsnewid yr Ysgol.
Croesi’r ffin?
Roedd y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau wedi craffu ar y cynnig yr wythnos ddiwethaf, ac fe wnaeth y cadeirydd, y Cynghorydd Gwynfor Thomas, siarad yn y cyfarfod.
“Rwy’n ymbil arnoch chi i ystyried go iawn beth ddaw o’r ymgynghoriad hwn,” meddai.
“Mae’n ymddangos bod yna feddylfryd mai Llanrhaeadr fydd yr unig ysgol i dderbyn [plant]; mae 90% o’r disgyblion hyn yn byw’n agosach i ffin ac ysgolion Sir Amwythig.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn adnabod lle bydd y disgyblion hynny’n mynd, oherwydd bydd yn golled enfawr i Bowys pe baen nhw’n mynd dros y ffin.”
Tynnodd e sylw at y ffaith fod ysgolion cynradd Trefonen a Sylatyn ger Croesoswallt yn Lloegr yn “agos iawn” i’r ardal hon.
“Mae’n anodd symud tuag at gau [yr ysgol] pan nad ydyn ni’n gwybod beth yw’r darlun mawr,” meddai wedyn.
“Y prif bwynt ydy: pe baen ni’n colli’r disgyblion hynny dros y ffin i’r sector cynradd, byddwn ni’n eu colli nhw i’r sector uwchradd, gan mai dyna’r cam naturiol, ac mae yna ysgolion uwchradd cryf iawn yng Nghroesoswallt.
“Bydd colled ar eu hôl nhw am byth ym Mhowys.”
‘O bwys enfawr’
“Mae hyn o bwys enfawr i’n cornel fach ni yng nhopiau gogledd Powys rhwng Wrecsam a Sir Amwythig,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol a’r aelod dros Lanrhaeadr-ym-Mochnant.
“Bydd yn achosi niwed dirifedi i’r ardal pe baen ni’n colli’r ysgol hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, y Democrat Rhyddfrydol a deilydd y portffoli Addysg, ei fod yn “edrych ymlaen at y dystiolaeth a ddaw er mwyn gweld a oes yna ateb gwell”.
“Dw i’n agored i wrando arno,” meddai.
Fe wnaeth e gynghori gwrthwynebwyr i’r cynlluniau i gau’r ysgol i “grefftio’u dadleuon” o amgylch wfftio rhesymau swyddogion addysg dros gau’r ysgol.
“Mae dangos bod achos gwell yn rhoi rheswm i swyddogion newid eu meddyliau ac i gyflwyno cynnig gwahanol gerbron y Cabinet,” meddai.
‘Dim penderfyniad’
Pwysleisiodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, y Democrat Rhyddfrydol ac arweinydd y Cyngor, nad oedd penderfyniad i gau’r ysgol am gael ei wneud yn y cyfarfod, ac mai’r penderfyniad oedd “jyst” mynd allan i ymgynghoriad.
“Nid dyma ddiwedd y stori o bell ffordd; rydyn ni’n bell i ffwrdd o hynny,” meddai.
Fe wnaeth y Cabinet gytuno’n unfrydol i ddechrau’r broses ymgynghori, allai weld yr ysgol yn cau ar Awst 31, 2025.