Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o dan ei harweiniad.

Mewn datganiad i’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Medi 17), roedd hi wedi cyfeirio at bedwar maes allweddol, sef:

  • iechyd da
  • swyddi gwyrdd a thwf
  • cyfle i bob teulu
  • cysylltu cymunedau

Egluro’r blaenoriaethau

Yn ei datganiad, dywedodd Eluned Morgan fod iechyd da yn golygu lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd menywod.

Wrth gyfeirio at swyddi gwyrdd a thwf, dywedodd y byddai ei Llywodraeth yn creu swyddi gwyrdd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill.

Mae hefyd yn golygu cyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru, meddai.

Mae rhoi cyfle i bob teulu yn golygu hybu safonau mewn ysgolion a cholegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo.

Wrth gysylltu cymunedau, bydd y Llywodraeth yn “trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau” ac yn “trwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20m.y.a.

‘Gwrando’

Daw’r cyhoeddiad ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar ddiwedd haf pan aethon nhw ati i gynnal sesiynau gwrando, er mwyn llunio blaenoriaethau pobol yng Nghymru.

“Dros yr haf, dw i wedi siarad â channoedd o bobol ym mhob cwr o Gymru,” meddai Eluned Morgan.

“Dw i eisiau diolch i bawb wnaeth roi o’u hamser i rannu eu gobeithion, eu pryderon a’u barn â mi a’m cydweithwyr, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb.

“Iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol mynd i’r afael â’r amseroedd aros hir am driniaeth, yw’r prif flaenoriaethau.

“Mae awydd cryf hefyd inni wella safonau addysg, a chreu swyddi a thyfu’r economi’n gynt dros y deunaw mis nesaf.

“Mae pryder gwirioneddol hefyd ynghylch cyflwyno’r terfynau cyflymder 20m.y.a. ac awydd i weld newidiadau ar ffyrdd penodol.

“Cyflawni, sicrhau atebolrwydd a gwella cynhyrchiant fydd flaenllaw ym meddwl fy llywodraeth.

“Cyflawni blaenoriaethau’r bobol, gan gynnwys bod yn fwy tryloyw a gweladwy i’r cyhoedd, fel bod trethdalwyr yn gwybod pan fydd pethau’n mynd yn dda a phan fydd lle i wella.

“Drwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru, fe fyddwn i’n creu cenedl lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u clywed.

“Rydyn ni wedi gwrando, rydyn ni wedi dysgu ac rydyn ni’n mynd i gyflawni.”

‘Gwrthod gwrando’

Wrth ymateb i’r blaenoriaethau, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, wedi cyhuddo Llafur Cymru o “wrthod gwrando ar ffermwyr Cymru”.

“Fe wnaeth gwendidau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yrru ffermwyr i Fae Caerdydd yn eu miloedd, ond roedd yn absennol o ddatganiad y Prif Weinidog ynghylch ei blaenoriaethau heddiw,” meddai.

“Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobol, ac nid ar bethau sy’n tynnu sylw a phrosiectau gwagedd.”