Bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd canol dinas Wrecsam, ar ôl i’r ffyrdd hynny gael eu cymharu â Wacky Races.

Dywed uwch gynghorwyr fod angen gweithredu ar frys er mwyn gwella diogelwch y brif ardal siopa, yn dilyn honiadau bod gyrwyr wedi cael eu gweld yn rhuthro i lawr y Stryd Fawr ar gyflymder o hyd at 70m.y.a.

Fe wnaeth aelodau o fwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Medi 17) i drafod ystod o fesurau sydd wedi’u hanelu at warchod ymwelwyr, gan gynnwys cyflwyno traffig un-ffordd ar rai ffyrdd.

Mae gwaith adfywio ar y gweill, fydd yn arwain at agor Stryd Fawr y ddinas a’r ardal gyfagos i gerddwyr yn unig, ar ôl codi pyst sy’n codi o’r llawr.

Bydd rhai ffyrdd allweddol eraill ar gau i draffig rhwng 11.30yb a 6yh mewn ymgais i greu “diwylliant caffi” yn y ddinas.

Pryderon

Cafodd pryderon eu codi gan rai perchnogion busnes ynghylch yr effaith y byddai’r newidiadau’n ei chael ar ddosbarthu nwyddau, yn ogystal â cholli llefydd i bobol ag anableddau barcio ar y Stryd Fawr.

Fodd bynnag, fe wnaeth y glymblaid Annibynnol/Ceidwadol gefnogi cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) unigol ar gyfer yr ardal gyfan, ar ôl i ddirprwy arweinydd y Cyngor ddweud bod angen i Wrecsam “ymddwyn fel dinas”.

“Fedrwn ni ddim cael Wacky Races yn dod i mewn i’r ddinas fel sydd wedi bod yn digwydd, gan roi diogelwch y cyhoedd yn y fantol,” meddai’r Cynghorydd David A Bithell (Annibynnol).

“Dw i’n llwyr gefnogol i’r gorchymyn traffig sydd gennym ni wedi’i roi ar waith.

“Mae angen i ni sicrhau ei fod yn gweithio, ac mae angen i ni sicrhau bod y busnesau’n cael budd llawn o’r cynnig.

“Ond gadewch i ni roi hyn mewn persbectif, oherwydd mae gennym ni fuddsoddiad sylweddol yn y ddinas nad ydyn ni wedi’i gael ers nifer o flynyddoedd.

“Mae pethau’n newid, a dydyn ni ddim yn dref rhagor – dinas ydyn ni.

“Mae’n rhaid i ni ymddwyn fel dinas, ac mae’n rhaid i ni newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau.”

Mae’r anghyfleuster sydd wedi’i achosi gan y gwaith ar y Stryd Fawr yn y ddinas wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol gan fusnesau sy’n dweud ei fod wedi cael effaith negyddol ar fasnach.

Roedd honiadau hefyd y gallai’r mesurau newydd atal pobol ag anableddau rhag cael mynediad i Eglwys Plwyf St Giles.

“Mae fy mhryder i’n ymwneud â faint o fusnesau fydd yn cael eu heffeithio gan y gorchymyn traffig newydd sy’n gwybod ei fod wedi cyrraedd y fan yma,” meddai’r Cynghorydd Andy Gallanders (Plaid Cymru), sy’n berchen bar cwrw crefft yng nghanol y ddinas.

“Mae’r gwaith presennol ar y Stryd Fawr, yr ydyn ni i gyd yn gwybod y bydd yn wych unwaith y bydd wedi’i gwblhau, wedi dangos problem gyfathrebu rwhng y Cyngor a busnesau.

“Fy mhryder i ydy, os nad ydy busnesau’n ddeiliaid trwyddedau, bydd hyn wir yn lleihau’r ffenest ar gyfer dosbarthu nwyddau.”

Gwella diogelwch cerddwyr

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod sy’n arwain ar Addysg, ei fod yn cefnogi’r mesurau ac yn credu y bydden nhw’n gwella diogelwch cerddwyr.

Fe wnaeth y sylwadau er iddo fynegi pryderon y gallai gael effaith negyddol ar economi nos y ddinas pe na byddai tacsis yn gallu mynd yn agos at dafarnau a bariau.

“Mae swyddogion Heddlu’r Gogledd wedi dweud wrtha i eu bod nhw wedi gweld cynnydd yng nghyflymdra cerbydau dros y blynyddoedd diwethaf, a bod hynny’n golygu bod damwain ar y gorwel,” meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod sy’n arwain ar yr economi.

“Mae angen i ni gofio bod hyn wedi’i ddylunio i wneud y Stryd Fawr yn fwy bywiog ac i gael economi ddydd a nos sy’n ffynnu.

“Mae buddsoddiad mawr yn y Stryd Fawr rŵan, lle rydyn ni’n rhoi arian i mewn i bedestreiddio er mwyn creu diwylliant caffi, lle gall busnesau gael byrddau a chadeiriau tu allan ar gyfer diodydd a phrydau bwyd.

“Roedd gennym ni dystiolaeth anecdotaidd y llynedd fod rhai cerbydau’n teithio i lawr y Stryd Fawr ar gyflymder o bron i 70m.y.a., sy’n annerbyniol, ac mae’n rhaid gwneud rhywbeth.”

Cafodd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ei gymeradwyo gan y bwrdd gweithredol ar ddiwedd y ddadl.