Newid tôn, yn hytrach na newid sylwedd, sydd wedi bod ym mholisïau hinsawdd a thrafnidiaeth Cymru, yn ôl cyn-weinidog yn y Llywodraeth.
Mae Lee Waters, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli, wedi pwysleisio na fydd newid yn eu sylwedd chwaith.
Fe fu’n myfyrio ar hynt a helynt polisïau hinsawdd a thrafnidiaeth diweddar Llywodraeth Cymru, a’u dyfodol dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog newydd Eluned Morgan.
Cafodd Lee Waters ei benodi’n Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn 2018, ac yna’n Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd rhwng 2021 a 2024.
Yn y swyddi hyn, roedd yn rhannol gyfrifol am gyflwyno’r gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd yn 2021, a’r terfyn cyflymder i 20m.y.a. yng Nghymru y llynedd.
Cyn cychwyn yn y Senedd, roedd yn gadeirydd ar gwmni Sustrans, sy’n hyrwyddo trafnidiaeth werdd, ac yntau’n gredwr cryf mewn dulliau trafnidiaeth amgen, gan deithio i’r gwaith ar ei feic.
Mewn cyfweliad eang â golwg360, fe fu Lee Waters yn trafod dyfodol y polisi 20m.y.a. dadleuol ac ymrwymiad y Llywodraeth i gyflawni eu targedau carbon.
Egwyddor 20m.y.a.
Yn ôl Lee Waters, mae’n disgwyl newid o ran tôn yn hytrach na sylwedd wrth drafod y polisi 20m.y.a. o dan Eluned Morgan a Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd.
Mae’r polisi dadleuol, gafodd ei gyflwyno fis Medi diwethaf, wedi achosi cryn dipyn o ffrae yn y Senedd.
Ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog, fe fu awgrym y gallai hi feddalu rywfaint o ran agwedd ei Llywodraeth at y polisi, ond dydy hynny ddim yn wir, yn ôl Lee Waters.
“Mae Eluned Morgan a Ken Skates wedi dweud eu bod nhw am adolygu’r canllawiau, a dyna wnaethon nhw, a dyna oedd y cynllun erioed,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw wedi pwysleisio bod angen i gynghorau lleol ddefnyddio’r disgresiwn sydd wedi bod ganddyn nhw erioed, i ddefnyddio synnwyr cyffredin a pheidio â chael 20m.y.a. mewn ardaloedd lle nad yw’n gwneud synnwyr.”
Dyna mae’r canllawiau wedi’i ddweud erioed, meddai, felly does dim newid sylweddol wedi bod i’r polisi, a dydy e ddim yn rhagweld y bydd newid chwaith.
“Y broblem sydd wedi bod ydy bod gwrthwynebiad sylweddol wedi bod – yn rhannol oherwydd mae gwrthwynebiad bob tro mae unrhyw un yn newid unrhyw beth yn ymwneud â cheir.
“Roedd hynny’n wir pan gafodd y cyfyngiadau cyflymder cyntaf eu cyflwyno yn 1936, ac mae wedi bod yn wir am bob newid yn ymwneud â’r ffyrdd ers hynny.
“Felly, bydd hynny’n digwydd waeth beth fydd yn digwydd, er gwaethaf eich ymdrechion i baratoi ar eu cyfer.”
Gweithredu’r polisi
Serch hynny, mae Lee Waters yn feirniadol o’r rai o’r ffyrdd mae’r polisi wedi cael ei weithredu, gan gynnwys agweddau’r cynghorau lleol.
“Doedd Llywodraeth Cymru ddim wedi braenaru’r tir yn ddigon da o flaen llaw, heb ymgynghori’n iawn gyda chymunedau, a dyna sy’n gyfrifol am gryn dipyn o’r anfodlonrwydd gyda’r ffordd gafodd y polisi ei gyflwyno,” meddai.
“Os ydych chi’n edrych ar y siroedd, yn enwedig yng ngogledd Cymru lle’r oedd y lleiaf o newidiadau fis Medi diwethaf, dyna lle mae’r gwrthwynebiad wedi bod ar ei gryfaf, a dyna lle mae’r mwyaf o broblemau wedi bod.
“Pe bai’r cynghorau wedi defnyddio synnwyr cyffredin a’r disgresiwn sydd wastad wedi bod ganddyn nhw, mi fyddai llawer llai o broblemau yno.
“Dw i’n credu bod hwn i gyd yn rhan o gyfnod sefydlu a thrafferthion cychwynnol mae’n anochel fydd gan bolisi fel hwn, a’r gwrthwynebiad rydyn ni’n dyst iddo fe, ond does neb o ddifrif yn awgrymu newid sylweddol i’r polisi.”
Serch hynny, mae’n awgrymu na fu’r gwrthwynebiad mor chwyrn ag y byddai nifer wedi’i ddisgwyl.
“Rhan o’r broblem ydy eich bod chi’n siarad gyda rhywun ar lefel leol ac yn gofyn a ydyn nhw eisiau cael gwared ar y cyfyngiadau cyflymder ar eu stryd nhw, ac yn aml dydyn nhw ddim.
“A hyd yn oed os ydyn nhw, rydych chi’n gofyn i’w cymdogion nhw a dydyn nhw ddim yn cytuno.
“Felly, oes, mae llawer o bobol eisiau gweld newid, ond dydych chi ddim yn clywed gymaint gan y bobol sydd ddim eisiau gwneud newidiadau.
“Felly, ydy, mae e’n bolisi anodd iawn, iawn i’w gyflwyno, ac mae’r gwrthwynebiad wedi bod yn gryfach nag oedden ni’n ei ddisgwyl, ond dw i ddim yn credu bod craidd yr holl beth wedi newid.”
Beth nesaf, felly?
Ond beth fydd effaith y newid tôn, felly, os nad newid sylwedd yn y pen draw?
“Fydd y newid tôn yn cael effaith ar lefelau ufudd-dod? Fydd pobol yn clywed y newid tôn ac yn meddwl, wel, mae’r polisi am newid nawr, felly does dim rhaid i fi barhau i ddilyn y rheolau?
“Mae hynny’n rywbeth, gyda llaw, dw i wedi’i glywed gan yrwyr tacsi.
“Fyddwn ni ddim yn gwybod am hynny oherwydd mae yna oedi o ran adrodd y ffigurau – dim ond y darn cyntaf o’r data sydd gyda ni, ond pan fydd y data ar gyfer y cyfnod hwnnw pan oedd newid o ran tôn, fydd yna ostyngiad?
“Ac ai data hollol ddi-drefn fydd gennym ni wedyn? Dw i’n sicr yn gofidio am hynny.
“Ond dw i wir yn credu bod hynny’n broblem tymor byr, oherwydd dw i ddim yn credu, er gwaetha’r newid tôn, fod unrhyw chwant newid y polisi’n sylweddol – dim ond angst ac anfodlonrwydd o ran y ffordd mae e wedi cael ei gyflwyno sydd, ac mae hynny’n ddealladwy.
“Ond y gwir ydy bod hwn yn newid anodd, ac mae angen i ni lynnu ato fe, a dw i heb glywed dim gan y Prif Weinidog na’r Gweinidog Trafnidiaeth sy’n awgrymu fel arall.”
‘Angen newid agweddau i gyrraedd Net Sero erbyn 2050’
Fis mis Mawrth 2021, dan oruchwyliaeth Lee Waters, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu targedau i gyflawni carbon net sero erbyn 2050.
“Y peth yw, yr hyn nad yw pobol yn ei ddisgwyl ydy maint a chyflymder y newid sydd ei angen os ydyn ni am gyrraedd net sero erbyn 2050,” meddai wrth edrych tua’r dyfodol.
“Rydyn ni wedi torri’n targedau ni lawr i mewn i gyfnodau pum mlynedd, gan fanylu ar y newidiadau sydd angen eu gwneud bob pum mlynedd er mwyn cyrraedd net sero erbyn 2050.
“A phob pum mlynedd, mi fydd hi’n anoddach ac yn anoddach, oherwydd mae cyfradd y toriadau sydd eu hangen yn cynyddu hefyd.
“Felly mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r ymgynghorwyr annibynnol, wedi dweud bod rhaid gwneud mwy o doriadau dros y deng mlynedd nesaf nag sydd wedi bod dros y 30 mlynedd blaenorol – gwerth tri degawd o doriadau mewn deng mlynedd – nawr mae hynny’n waith caled!
“Mae hynny’n golygu bod angen newidiadau o ran polisi, bod angen newidiadau o ran agweddau, a bod angen newidiadau o ran gweithrediad.”
Cynsail wrth newid agweddau
Newid agweddau ydy’r broblem anoddaf sy’n wynebu’r Llywodraeth, meddai Lee Waters, gan ychwanegu serch hynny fod yna gynsail yng Nghymru.
“Ugain mlynedd yn ôl, [Cymru] oedd â chyfraddau ailgylchu bwyd gwaethaf Ewrop.
“Erbyn heddiw, ni sydd ail orau ar draws y byd i gyd. Mae hynny’n newid anferthol o ran ymddygiad.
“Mi wnaethon ni hynny mewn camau, drwy ei gwneud hi’n haws i bobol, a chan gymryd y pethau oedd yn gwneud ailgylchu bwyd yn anodd i ffwrdd.
“Dw i’n hyderus y gall y strategaeth honno gael ei chodi a’i haddasu yn achos trafnidiaeth.
“Mae angen i chi ei gwneud hi’n hawdd i bobol wneud yr hyn sy’n iawn, a’i gwneud hi’n anoddach i bobol wneud yr hyn sy’n ddrwg.
“Mae hynny’n groes i 70 o flynyddoedd o arfer, lle mae ceir wedi cael eu blaenoriaethu, a dulliau trafnidiaeth gyhoeddus wedi’u preifateiddio a’u tanariannu.
“Rydyn ni wedi dylunio’n trefi a’n dinasoedd, rydyn ni wedi trefnu’n bywydau ni o amgylch neidio i mewn i’r car.
“Rydyn ni wedi rhoi gwasanaethau, ysbytai, archfarchnadoedd ac ardaloedd masnach ar gyffiniau dinasoedd, mewn llefydd sydd o fewn cyrraedd ceir yn fwy na dim byd arall.
“Felly, mae’n realiti dyddiol rydyn ni wedi’i gynllunio i wneud i ni feddwl ac i ymddwyn mewn ffyrdd penodol.
“Mae’n anodd iawn dychmygu, felly, bod unrhyw realiti amgen ar gael i ni ac os nad oes gwasanaethau ar gael fydd yn newid y realiti, fyddwn ni ddim yn medru cael pobol i newid eu hunain.
“Os yw hi’n haws, ar lefel unigolyn, i deithio o A i B ar gefn beic neu drwy gerdded neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yna dyna fydd pobol yn ei wneud.”