Mae’r Cynghorydd Geraint Thomas, arweinydd Annibynnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi penderfynu gadael ei swydd yn dilyn canlyniad is-etholiad ward Beddllwynog a Threlewis, gafodd ei ennill gan Gillian Preston o’r Blaid Lafur.
“Gyda Llafur yn ennill sedd yn yr is-etholiad diweddar, ac wedyn ymadawiad y cynghorwyr Annibynnol Declan Sammon a Paula Laton, gyda dim ond deuddeg aelod fe ddaeth yn amhosib parhau’n arweinydd,” meddai.
“Fel boi gafodd ei eni a’i fagu ym Merthyr, y rôl hon yw’r swydd orau yn y byd, a bu’n anrhydedd gwasanaethu fel arweinydd y Cyngor.
“Dw i’n eithriadol o falch o’r hyn dw i wedi’i gyflawni, a chyflawniadau’r Cabinet a’r Grŵp Annibynnol cyfan yn ystod cyfnod heriol i lywodraeth leol.
“Tra bod arweinyddiaeth wleidyddol yr awdurdod eto i’w benderfynu, byddaf yn parhau i gynrychioli ward Cyfarthfa a’r Cyngor cyfan gydag ymroddiad ac ymrwymiad.”
Dywed datganiad y Cyngor y bydd yr arweinydd yn aros yn ei swydd tan y Cyfarfod llawn nesaf ddydd Mercher, Medi 18 er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor at y dyfodol.
Mae gan y prif Grŵp Annibynnol ddeuddeg o gynghorwyr bellach ers i Declan Sammon a Paula Layton ffurfio’u grŵp eu hunain, Annibynwyr Cymunedol Dowlais a Phant, ac mae dau gynghorydd annibynnol hefyd, sef Kevin Gibbs a Jamie Scriven.
Llafur
Ar ôl i Gillian Preston ennill is-etholiad Beddllwynog a Threlewis, mae gan y Grŵp Llafur 14 o gynghorwyr erbyn hyn.
Yn etholiadau lleol 2022, enillodd Llafur a’r Annibynwyr bymtheg o seddi, a chafodd Geraint Thomas ei ethol yn arweinydd yn y pen draw ar sail pleidlais dyngedfennol gan y maer yn dilyn pleidlais gyfartal.
Mae’r Grŵp Annibynnol wedi bod yn rhedeg y Cyngor ers 2017, pan wnaethon nhw ddisodli’r Blaid Lafur.