Mae cyfiawnder yng Nghymru’n “galw allan am ryw fath o gyfeiriad a gweledigaeth”, yn ôl ymgynghorydd materion cyhoeddus a pholisi Cymdeithas y Gyfraith.
Yn ôl Joshua Hurst, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi ymgysylltu digon â’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Daw ei sylwadau wrth i Gymdeithas y Gyfraith gyhoeddi papur heddiw (dydd Iau, Medi 12) yn rhestru eu “pryderon difrifol” ynghylch ansawdd y sector yng Nghymru.
“Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud digon i ymgysylltu ag argymhellion Comisiwn Thomas [y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru],” meddai wrth golwg360.
“Mae cyfiawnder yng Nghymru yn galw allan am ryw fath o gyfeiriad a gweledigaeth.”
Prif argymhelliad y Comisiwn yn 2019 oedd y dylid datganoli cyfiawnder i Gymru, a chreu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Er bod y Comisiwn yn un hanesyddol o safbwynt cynnwys ei adroddiad, does dim llawer wedi digwydd o fewn y maes cyfreithiol ers 2019.
Mor ddiweddar â’r etholiad cyffredinol eleni, dywedodd Jo Stevens cyn iddi ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru na fyddai Llywodraeth Lafur San Steffan, pe baen nhw’n cael eu hethol, yn datganoli cyfrifoldebau cyfiawnder na chyfiawnder ieuenctid i Gymru.
“Anialwch cyfreithiol” yng Nghymru
Dywed y papur, Ailfeddwl Cyfiawnder yng Nghymru 2030, sydd wedi cael ei arwain gan Joshua Hurst, fod yna “anialwch cyfreithiol” i nifer yng Nghymru, lle mae pobol yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau cyfreithiol hanfodol.
Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas y Gyfraith, mae cymorth cyfreithiol dinesig am ddim yng Nghymru wedi gostwng 50% ers 2009.
“Mae’r broblem yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr,” meddai Joshua Hurst wrth golwg360.
“Mae o’n fater o fynediad, a hynny o ran trafnidiaeth mewn llawer o ffyrdd.
“Er enghraifft, mae o lawer haws i bobol ym Manceinion gyrraedd Llys y Goron yno nag y mae o i rywun yng ngogledd Cymru gyrraedd Llys y Goron Caernarfon.”
Hefyd, mae pryderon am ansawdd adeiladau, gyda 30% o gyfreithwyr yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel o ganlyniad i “wresogi gwael, systemau carthffosiaeth hynafol, llwydni, asbestos, a thoeau sy’n gollwng”.
“Fel cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Cymdeithas y Gyfraith Cymru, rwy’n hynod o bryderus ynglŷn â’r anialwch i fynediad cyfreithiol sydd yn bodoli ar draws y wlad,” meddai Mark Davies.
“Mae mynediad i gyfiawnder yn hawl sylfaenol, ond mae nifer o gymunedau yng Nghymru yn cael eu gadael heb y gwasanaethau hanfodol cyfreithiol maen nhw eu hangen ac yn haeddu.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.