Mae Llafur Cymru ac Eluned Morgan yn eu “Sunak era“, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.
Bu’n siarad â golwg360 ar ôl i’r Prif Weinidog Eluned Morgan gyhoeddi Cabinet newydd Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y rhai sydd wedi’u penodi mae Jeremy Miles, sy’n dychwelyd ar ôl ymddiswyddo o Gabinet y cyn-Brif Weinidog Vaughan Gething, a’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford, gafodd rôl Ysgrifennydd Iechyd dros dro dros yr haf.
Dywed Theo Davies-Lewis mai’r “un enwau” sydd o gwmpas y bwrdd eto, ac nad oes bai ar y Blaid Lafur yn llwyr am hynny ond yn hytrach strwythur gwleidyddol Cymru.
“Mae e’n eithaf anodd gweld sut mae’r Blaid Lafur yn gallu symud y tir gwleidyddol,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn teimlo ei bod yn “od” fod Mark Drakeford wedi dewis dychwelyd i’r Cabinet yn barhaol.
“Mae e’n od, mwy o ongl bersonol, achos doeddwn i jest ddim yn disgwyl iddo fe ddod yn ôl.
“Mi oeddwn i’n siarad efo fe dros yr haf mewn digwyddiadau yn Llundain, a doedd e ddim yn ymddangos fel ei fod eisiau dychwelyd yn ôl i’r Llywodraeth.
“Ond be dw i yn credu yw bod hyn yn dangos bod Eluned Morgan eisiau cael wynebau cyfarwydd o gwmpas y bwrdd, a hynny i uno grŵp Miles a grŵp Gething.”
Tebygrwydd rhwng Ceidwadwyr San Steffan a Llafur Cymru
Yn ôl Theo Davies-Lewis, mae modd cymharu sefyllfa’r Blaid Geidwadol yn San Steffan – oedd wedi symud o Boris Johnson i Liz Truss ac yna i Rishi Sunak – â’r hyn sydd wedi digwydd yn Llafur Cymru, sydd wedi cael tri Phrif Weinidog gwahanol ers dechrau 2024.
“Gyda Johnson i Truss, mi oedd y polisïau yn gwbl wahanol,” meddai’r sylwebydd.
“Gyda Gething [yn olynu Drakeford], mi oedd yna lot o newid polisi a symud i ffwrdd o agenda Drakeford.
“Ac efallai nawr, rydym mewn rhyw fath o Sunak era gydag Eluned Morgan; symud yn ôl i’r patrwm cyfarwydd sydd efallai yn fwy tebyg i’r arweinydd gwreiddiol.”
Newid strategaeth wleidyddol
O ystyried bod cyn lleied o enwau newydd yn y Cabinet, dywed Theo Davies-Lewis ei fod yn cwestiynu a all Llywodraeth Cymru “newid y strategaeth wleidyddol”.
“Mae e’n anodd gweld sut mae newid yn y strategaeth wleidyddol yma o’r darlun sydd wedi cael ei greu o’r Blaid Lafur yng Nghymru, lle maen nhw wedi rhoi eu hunain ar blatfform lle does neb yn gallu eu cyffwrdd nhw,” meddai.
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael eu beirniadu am ‘redeg i ffwrdd’ o graffu gan nifer o sylwebyddion a’r gwrthbleidiau yn siambr y Senedd.
Daw’r feddylfryd hon gan fwyaf o fethiannau Vaughan Gething, yn ôl Theo Davies-Lewis.
Ond ychwanega fod rhaid i Eluned Morgan greu “strategaeth wleidyddol newydd” sy’n gwneud mwy nag uno’r blaid, ac sydd hefyd yn “creu newid sylweddol da i fywydau pobol yng Nghymru”.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gyrraedd yr etholiad seneddol yna yn 2026 ddim mewn sefyllfa lle mae pobol yn credu bo nhw ddim wedi gwneud dim lles i’w bywydau nhw.
“Oherwydd, ar hyn o bryd, dyma yw’r darlun sy’n cael ei greu o’r blaid yng Nghymru, a hefyd ar lefel Brydeinig.
“Bydd llawer o hyn yn dibynnu ar y gyllideb, ac a fydd anrhegion neis neu gas.”