Bydd is-etholiad ar gyfer ward Tirymynach yng Ngheredigion yn cael ei gynnal fis nesaf.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge fis Awst eleni.

Fe fu’n cynrychioli ward Tirymynach ers 2008, a bu’n gadeirydd ar y Cyngor rhwng 2021 a 2022, yn ystod cyfnod arbennig o heriol Covid-19.

Dywed y Cyngor ei fod e wedi dangos “ei allu i addasu a chofleidio’r dechnoleg ddiweddaraf”, ac yntau’n gadeirydd cynta’r Cyngor i wneud ei waith yn rhithiol.

Yn ystod ei 26 mlynedd o wasanaeth i drigolion Ceredigion, bu hefyd yn gadeirydd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu, y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, a’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

Yn ystod ei gyfnod yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion, roedd yn frwd dros ddarparu cymorth a sicrhau bod cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled y sir gyfan yn cael llais, ac roedd yn “ddiysgog wrth hyrwyddo egwyddorion rhyddid a democratiaeth”, medd y Cyngor, gan ychwanegu ei bod yn rôl bwysig iddo fel un fu’n gwasanaethu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Yn 2022, cafodd ei wahodd i nodi 40 mlynedd ers rhyfel y Malfinas.

Y broses

Ar ôl cyhoeddi’r is-etholiad heddiw (dydd Iau, Medi 12), mae gan unrhyw un sydd am sefyll tan 4 o’r gloch ddydd Gwener nesaf (Medi 20) i gyflwyno’u papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau.

Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, bydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, Hydref 17.

Gall unrhyw un sy’n byw yn y ward ac sydd heb gofrestru i bleidleisio gofrestru hyd at 11.59yh nos Fawrth, Hydref 1.

I wneud cais i bleidleisio drwy’r post, bydd angen llenwi ffurflen gais a’i dychwelyd i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5yp ddydd Mercher, Hydref 2.

Rhaid gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy erbyn 5yp ddydd Mercher, Hydref 6.

Does dim angen dogfen adnabod â llun ar gyfer yr is-etholiad hwn.

Teyrngedau i Paul Hinge, cyn-gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion

Bu Paul Hinge yn gwasanaethu’r Cyngor am 26 o flynyddoedd