Fe fu oddeutu 73,500 o bobol yn gorymdeithio dros annibyniaeth ddoe (dydd Mercher, Medi 12) ar Ddiwrnod Cenedlaethol Catalwnia.

Dyma’r nifer lleiaf o bobol ers i’r gorymdeithiau gael eu cynnal am y tro cyntaf yn 2012, ac eithrio 2020, pan ddaeth 59,000 o bobol ynghyd yng nghanol y pandemig Covid-19.

Yn wahanol i flynyddoedd cynt, cafodd gorymdeithiau unigol eu cynnal yn ninasoedd Barcelona, Girona, Tarragona, Lleida a Tortosa, yn hytrach nag un orymdaith fawr.

Daeth 60,000 o bobol ynghyd yn Barcelona, gyda 6,500 wedi ymgasglu yn Girona, 3,000 yn Lleida, 2,800 yn Tarragona a 1,200 yn Tortosa, yn ôl heddluoedd pob dinas.

Mae’r ffigurau’n awgrymu argyfwng i’r mudiad annibyniaeth.

Cwta fis yn ôl, daeth yr arweinydd gwrth-annibyniaeth cyntaf ers 14 o flynyddoedd i rym, ar adeg pan fo’r gefnogaeth leiaf ers tro i’r mudiad annibyniaeth yn y senedd.

Adfywiad

Roedd trefnwyr y gorymdeithiau wedi gobeithio y bydden nhw’n arwain at adfywiad yn y mudiad annibyniaeth ar ôl cyfnod digon siomedig.

Maen nhw’n argyhoeddedig o hyd mai cynnal digwyddiadau ar strydoedd dinasoedd yw’r ffordd orau o ledaenu eu neges, er gwaetha’r niferoedd siomedig o bobol ddaeth ynghyd.

Yn ystod ralïau, fe fu mudiadau Assemblea, Òmnium Cultural, AMI a grwpiau eraill yn beirniadu’r pleidiau gwleidyddol “sydd wedi methu cytuno ar strategaeth gyffredin i ennill annibyniaeth”.

Fe fu trafodaethau rhwng pleidiau Esquerra Republicana a Junts per Catalunya dros y flwyddyn ddiwethaf ynghylch y ffordd ymlaen.

Fe fu’r ddwy blaid yn cydweithio yn y cabinet am gyfnod cyn i Junts dynnu’n ôl o’r glymblaid fis Hydref 2022.

Barcelona

Cafodd y digwyddiad yn Barcelona ei gynnal yn yr union fan lle gwnaeth Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, ddychwelyd ar ôl bod yn alltud yng Ngwlad Belg yn sgil ei ran yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017.

Darllenodd y trefnwyr eu maniffesto am 5.14yp, gyda’r amser yn cynrychioli’r flwyddyn dyngedfennol 1714, pan gwympodd dinas Barcelona i luoedd Bourbon y brenin.

Daeth y ralïau i ben wrth i gôr Coral de la Diada ganu’r anthem genedlaethol.

Yn ogystal â galw am annibynaieth, roedd y ralïau’n gyfle i dynnu sylw at faterion o bwys lleol, gan gynnwys yr angen am dai, gwell system iechyd ac isadeiledd trafnidiaeth, polisïau ffermio a pholisïau dŵr.

Mae ymgyrchwyr yn galw am newid polisïau ariannol er mwyn sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen yng Nghatalwnia, ond byddai angen cydsyniad Cyngres Sbaen cyn cyflwyno’r newidiadau hynny.

Yn ôl y siaradwyr yn y ralïau, byddai ennill annibyniaeth yn golygu bod modd i Gatalwnia “amddiffyn a hyrwyddo’r iaith Gatalaneg” hefyd, neu sicrhau dyfodol disglair i’r rhai sy’n ceisio prynu tai.

Fe fuon nhw’n dadlau bod rheolaeth Sbaen dros Gatalwnia “yn fygythiad strwythurol”, ac y byddai annibyniaeth “yn brosiect er mwyn cael byw’n well”.