Y bore ’ma, y gân oedd yn troelli yn fy mhen oedd ‘It’s a beautiful day in the neighbourhood‘. Dyna thema gerddorol sioe Mr Rodgers, oedd wedi diffinio plentyndod fy ngwraig ac a gafodd ei hanfarwoli mewn ffilm yn serennu’r ardderchog Matthew Rhys.

Gadewch i fi egluro. Dw i’n byw mewn ardal ‘goch’ iawn yn nhalaith Colorado – sir Elbert. Mae’n gornel uchel, fryniog o dde-ddwyrain Denver, tua maint Powys ond â dim ond 20,000 o drigolion. Roedd rhai o Gymru wedi ymgartrefu yma yn y 1860au, hyd yn oed, yn ogystal ag Ysgol Sul am gyfnod byr yn Kiowa. Ond stori arall yw honno…

Gallaf weld baneri Trump yn cyhwfan i’r gogledd a’r de o’m cartref. Ar yr ochr orllewinol mae baner Gadsden. Mae’n anodd peidio meddwl am agweddau diwylliannol a ‘chwltaidd’ yr hil yma bob dydd. Dydy’r gefnogaeth i Trump ddim yn rhesymegol. Mae e wedi dod ag ochr waethaf pobol i’r wyneb ac wedi cymryd rheolaeth dros blaid mae’n debygol o’i dinistrio – gobeithio pan fydd e’n colli. Mae Rick Wilson o’r Lincoln Project yn adnabyddus am ddarogan fod “popeth mae Trump yn ei gyffwrdd yn marw”.

Y prif beth wnaeth Kamala Harris yn y ddadl oedd gweinyddu lladdiad tosturiol.

Wrth aros yn eiddgar am y ddadl, trefnodd rhai o’m ffrindiau sianel Slack, ac fe fuon ni’n rhannu memes a sylwadau wrth i’r ddadl fynd yn ei blaen. Gweithred gyntaf Harris oedd siglo llaw ac edrych i fyw llygaid ei gwrthwynebydd. Allai Trump ddim osgoi’r cyffyrddiad (mae’n adnabyddus am ofni germau!). Roedd hwn yn symudiad ddaeth yn syth allan o’r llyfr reslo proffesiynol mae Trump mor hoff ohono. Ac rydyn ni’n gwybod fod ganddo fe obsesiwn am alw enwau ar fenywod du pwerus. Mae’n rhaid bod hynny wedi bod yn ddraenen yn ei ystlys o’r cychwyn cyntaf.

Harris v Trump

Fe gymerodd rywfaint o amser i Harris gynhesu. Roedd hi’n ymddangos yn nerfus, ac roedd hi’n defnyddio’i dwylo’n ormodol wrth i’r ddadl ddechrau. Fodd bynnag, am 9:28PM ET (2:28AM GMT), collodd Trump ei dymer yn llwyr pan osododd Harris ei magl gyntaf: dywedodd wrth Trump ei fod e’n ddiflas a bod pobol yn gadael ei ralïau’n gynnar! Arweiniodd y blue touch paper hwn at dân gwyllt – fod “mewnfudwyr yn bwyta anifeiliaid anwes”!

Aeth y noson o ddrwg i waeth iddo fe, a wnaeth e fyth ddod yn ôl o hynny, gan syrthio i’r fagl bob tro wrth i Harris eu gosod nhw ar ôl eu creu nhw er mwyn gadael i Trump siarad a dangos i’r cyhoedd yn America ei fod yn hunanobsesiynol, yn wallgof ac yn hollol orffwyll.

Yr hyn oedd yn syndod ac yn hyfryd oedd y gwirio ffeithiau wyneb-yn-wyneb. Yr eisin ar y gacen. Dylai hyn fod wedi dechrau dod yn normal yn 2016, ond dyna ni…

Y peth am y ddadl hon yw fod Trump wedi bod yn ymgeisydd gwan eithriadol erioed, ac mae’n gwneud pethau’n waeth iddo fe ei hun dros gyfnod o amser. Enillodd e yn 2016 am fod ei wrthwynebwyr GOP (yn ei Blaid Weriniaethol ei hun) yn rhanedig, ac roedd yr elfen oedd yn llawn casineb yn fwy na’r carfanau eraill gyda’i gilydd.

Ac roedd [Hillary] Clinton yn ymgeisydd arbennig o wan. Yn 2020, roedd Joe Biden yn ymgeisydd normal ac roedd gan Trump record wael, felly collodd Trump oherwydd mae pobol yn meddwl am y pethau ddigwyddodd yn fwyaf diweddar – ac roedd e newydd lywyddu dros bandemig a dirwasgiad. Yn waeth na hynny, ar ôl colli, fe geisiodd e wrthryfela. Fe wnaeth y ddadl olaf â Biden ddangos i ni fod Biden wedi heneiddio, ac fe wnaeth iddo edrych yn wan o gymharu â Trump.

Nawr, rydyn ni’n gweld Trump yn erbyn ymgeisydd cryf, galluog, ifanc ac egnïol. Mae’r gwahaniaeth yn amlwg, heb sôn am eu polisïau (o ran democratiaeth, y gyfraith, hawliau menywod, erthylu, perthnasau rhyngwladol ac ati). Mae angen erthygl arall i’w dadansoddi nhw’n fanwl, ond y cyfan ddywedaf i yw, o safbwynt erthylu ac IVF, daeth y Gweriniaethwyr yn gŵn sydd wedi dal y car. Mae dicter menywod o bob oed ar fin taro’r GOP, ac yn enwedig Trump.

Goruchafiaeth pobol wyn

Dydy’r ras hon ddim ond yn gystadleuaeth o ganlyniad i waddol y coleg etholiadol sydd wedi cynnal goruchafiaeth pobol wyn ers cyhyd. Mae’n drueni y byddai’n cymryd diwygiad cyfansoddiadol i newid y byd hwn. Ac o ystyried natur y newid, fyddai bron pob talaith fechan ddim yn gadael i hynny ddigwydd.

Yr hyn wnaeth Harris oedd dangos ei bod hi’n rheoli ac yn gall, a chynigiodd hi gangen olewydden i bobol nad ydyn nhw’n rhan o’r cwlt. Taniodd hi’r ffrwydradau a gwylio Trump yn aberthu ei hun. Niweidiodd hi’r dyn, a dw i ddim yn meddwl y bydd e’n gwella o hynny. Pe bawn i’n brimatolegydd, byddai’r olwg ar ei wyneb yn fy atgoffa o epa wedi cael llond twll o ofn.

Felly, mae’r gân yn fy mhen fwy na thebyg yn ymwneud â’r syniad nad yw llawer o etholwyr yn hoffi bod ar yr ochr sy’n colli. Ac mae Trump yn edrych fel hen gollwr blin sy’n cynrychioli’r gorffennol pell. Mae’r ddadl hon yn edrych fel pe bai wedi gwneud gwahaniaeth i feddylfryd y cyfryngau – a’r ras yn y llefydd pwysig.

A nawr, rydyn ni’n cael llawer o jôcs allan o’r peth, a dydy ffasgwyr ddim yn hoffi hynny. Gobeithio y byddan nhw’n aros gartref os ydyn ni’n chwerthin am eu pennau nhw. Gweler fy hoff memes o’r ffrwd Slack: