Mae angen i Lywodraeth Cymru wella’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd ar incwm isel fel ei fod yn cyd-fynd â chwyddiant, yn ôl y felin drafod Sefydliad Bevan.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am nifer o grantiau sy’n cael eu penderfynu yn ôl cyflog, gan gynnwys prydau ysgol am ddim, Grant Hanfodion Ysgol a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Dywed Sefydliad Bevan fod gwaith da’n cael ei wneud yn Llywodraeth Cymru i’w gwneud hi’n haws i bobol gael gafael ar fudd-daliadau drwy greu System Fudd-daliadau Gymreig.

Fodd bynnag, maen nhw’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru godi’r trothwy ar gyfer bod yn gymwys am y budd-daliadau, a chynyddu’u gwerth er mwyn cyd-fynd â chwyddiant.

Yn ôl Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i godi budd-daliadau gyda chwyddiant os ydyn nhw eisiau mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Er mwyn bod yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol mewn ysgol uwchradd, mae’n rhaid bod rhiant y plentyn yn derbyn budd-daliadau etifeddol neu Gredyd Cynhwysol, a rhaid i’r aelwyd fod ar incwm o lai na £7,400.

Pe bai’r trothwy incwm wedi codi gyda chwyddiant, byddai’n £9,185.23 erbyn hyn.

“I fod yn gymwys am Bryd Ysgol Am Ddim mewn ysgol uwchradd neu ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol, byddai’n rhaid i deulu fod £1,785 y flwyddyn yn dlotach nag yn 2019,” meddai Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan.

“Ffordd arall o edrych ar hyn yw, yn 2019, gallai rhiant sengl weithio ychydig dros 17 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol a bod yn gymwys.

“Heddiw, all yr un rhiant ond gweithio deuddeg awr a hanner cyn eu bod nhw’n anghymwys.

“Mae hynny’n golygu nad yw’r un rhiant sy’n gweithio, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, yn gallu cael mynediad at y grantiau.”

‘Gwasgfa dawel’

Mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r trothwy a gwerth y grantiau i gyd-fynd â chwyddiant, o leiaf, ar gyfer cyllideb 2025-26.

Ychwanega Dr Steffan Evans fod budd-daliadau’n “llinell gymorth hanfodol” i deuluoedd ledled Cymru ac yn un o brif arfau’r llywodraeth i leihau tlodi.

“Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio codi’r rhan fwyaf o’r budd-daliadau hyn yn unol â chwyddiant wedi rhoi ‘gwasgfa dawel’ ar deuluoedd incwm isel Cymru,” meddai.

“Mae’r wasgfa hon yn rhwystro pobol mewn sefyllfaoedd anodd rhag cael mynediad at yr help maen nhw ei angen, ac yn gostwng gwerth y taliadau maen nhw’n eu derbyn.

“Rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydyn nhw’n ailadrodd eu camgymeriad yr hydref hwn.”

‘Dim cynlluniau i ymestyn y cynnig’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi teuluoedd.

“Rydym yn parhau i fonitro effaith bosibl chwyddiant ar nifer y dysgwyr sy’n gymwys i gael pryd ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.

“Rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd i gynyddu hawl, ac rydym yn dysgu gwersi gwerthfawr a fydd yn llywio unrhyw newidiadau pellach.

“Er nad oes cynlluniau i ymestyn y cynnig ar hyn o bryd, rydym yn adolygu’r meini prawf cymhwysedd yn y tymor hir.”