Mae Lee Waters, cyn-Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, yn dweud bod polisïau net sero “wedi arafu” ers cyfnod Mark Drakeford yn Brif Weinidog, ac mai’r polisi 20m.y.a. dadleuol arweiniodd at ei benderfyniad i adael Llywodraeth Cymru.

Daw ei sylwadau wrth siarad â golwg360 am yr heriau mae’r Llywodraeth yn eu hwynebu ers i Mark Drakeford gamu o’r neilltu, gydag Eluned Morgan yn ei olynu.

Dywed ei fod yn “pryderu” bod “graddfa’r cyflymder” wrth fynd i’r afael â net sero “wedi arafu ers i Mark Drakeford orffen fel Prif Weinidog”.

“Roedd Mark Drakeford yn ymrwymedig iawn i bolisïau net sero, a hefyd Julie James,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gallu cymryd ein troed oddi ar y sbardun os ydym am gyrraedd y targedau yma.

“Ond i bwy bynnag fydd yn Llywodraeth Cymru, mae’r targedau sydd yn dod ar ôl yr etholiad nesaf [yn 2006] hyd yn oed yn fwy anodd.”

Llymder ac 20m.y.a.

Yn ôl Lee Waters, mae polisi llymder y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi gwneud gweithredu yn y maes net sero yn anoddach, ond dywed fod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i wneud cymaint ag sy’n bosib.

Ychwanega fod y gwrthbleidiau, er eu bod yn cefnogi net sero mewn egwyddor, wedi dewis gwrthwynebu polisïau fel diwygio ariannu ffermio neu drafnidiaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn gyfrifol am bolisïau net sero Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag amaeth.

Ond yn y pen draw, polisi dadleuol arall arweiniodd at ymadawiad Lee Waters.

Er ei fod yn bendant ei farn fod net sero’n bolisi cyfiawn, dywed nad yw’n disgwyl ailymuno â’r Llywodraeth gan fod y rôl “wedi achosi straen” – rhywbeth mae wedi’i drafod yn y gorffennol.

“Ar lefel bersonol, dw i’n credu bod yna lot i’w ddweud o blaid cymryd seibiant ac ailwefru, fel petai.”

Mae’n sylweddoli bod y polisi 20m.y.a. wedi bod yn “amhoblogaidd” efo etholwyr, meddai, gan gyfaddef fod hyn wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i gamu o’r Cabinet yn dilyn ymddiswyddiad Mark Drakeford.

“Yn wleidyddol, roeddwn i’n sylweddoli ein bod ni’n dod i fyny i etholiad cyffredinol a newid Prif Weinidog, ac roedd y polisi roeddwn i’n fwyaf adnabyddus amdano’n amhoblogaidd iawn.

“Dw i’n deall gwleidyddiaeth, ac yn derbyn fy nghyfrifoldeb i’n rhannol am hynny, ac felly fe wnes i dderbyn yr hyn oedd i ddod.”