Jeremy Miles yw Ysgrifennydd Iechyd newydd Cymru.
Mae’n dychwelyd i Gabinet Llywodraeth Cymru ar ôl ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Addysg mewn ymgais i sicrhau ymddiswyddiad Vaughan Gething, y cyn-Brif Weinidog, dros yr haf.
Mae Julie James, gweinidog arall oedd wedi ymddiswyddo yr un pryd â Jeremy Miles, yn dychwelyd i’r Cabinet, a hi yw’r Cwnsler Cyffredinol newydd, gan olynu Mick Antoniw, un arall oedd wedi ymddiswyddo tua diwedd cyfnod Vaughan Gething wrth y llyw.
Does dim lle yn y Cabinet i Antoniw, na chwaith i’r pedwerydd gweinidog oedd wedi ymddiswyddo, y cyn-Weinidog Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Lesley Griffiths.
Dyma’r tro cyntaf i Eluned Morgan, ei olynydd, ad-drefnu ei Chabinet ers iddi ddod i rym yn dilyn helynt y Blaid Lafur.
Daw Jeremy Miles yn ôl i’r Cabinet yn lle Mark Drakeford, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyllid, gyda’i rhagflaenydd Rebecca Evans bellach yn Ysgrifennydd yr Economi.
Mae Lynne Neagle yn parhau’n Ysgrifennydd Addysg, tra bod Ken Skates yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru o hyd.
Mae Jayne Bryant yn parhau’n Ysgrifennydd Tai a Llywodraeth Leol, a bydd Jane Hutt yn gyfrifol am Gyfiawnder Cymdeithasol ac yn Brif Chwip.
Mae Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog, yn dal i fod yn gyfrifol am Faterion Gwledig.
Mae Vikki Howells wedi’i dyrchafu’n is-weinidog am y tro cyntaf.
Ar ôl bod yn Ysgrifennydd Iechyd dros dro, y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford yw’r Ysgrifennydd Cyllid newydd, ac fe fydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg.
Yn ôl Eluned Morgan, mae’r penodiadau i’r Cabinet “yn cynnig sefydlogrwydd, yn tynnu ar brofiad, ac yn dod â’n doniau ynghyd”, a’r swyddi’n “adlewyrchu’r Gymru gyfoes” er mwyn “mynd i’r afael â’r prif heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd”.