Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am oedi tan fis Tachwedd cyn penderfynu a ydyn nhw am werthu Plas Tan y Bwlch.
Mae’r plasty ym Maentwrog wedi bod ar y farchnad agored am £1.2m, ac mae’r awdurdod yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn golygu nad ydy hi’n bosib iddyn nhw barhau i’w ariannu.
Cafodd cynnig i brynu’r adeilad ei drafod mewn cyfarfod preifat heddiw (dydd Mercher, Medi 11).
Fodd bynnag, maen nhw wedi penderfynu peidio gwneud penderfyniad tan fis Tachwedd, er mwyn gallu ymgynghori mwy â’r gymuned ac unrhyw un sy’n mynegi diddordeb i’w brynu.
Roedd pryderon yn lleol am y posibilrwydd o’i werthu i gwmni preifat, a’r hyn fyddai hynny’n ei olygu i’r tir o’i gwmpas.
Mewn datganiad, dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y bydd yr oedi’n caniatáu cyfleoedd i archwilio’r holl opsiynau’n fwy trylwyr a ffurfioli mynediad i’r cyhoedd i ran o’r coetir ac o amgylch Llyn Mair.
Mae’r newyddion am ohirio’r penderfyniad “yn gam bach yn y cyfeiriad cywir”, yn ôl Llinos Alun, sy’n byw yn lleol.
“Gobeithio y bydd gwell cyfathrebu a thrafodaethau mwy agored i ddod, ac y bydd gwir ymdrech ar ran yr Awdurdod i ddiogelu adnoddau’r gymuned. Amser a ddengys!” meddai wrth golwg360.
“Edrychwn ymlaen at gyfarfod cyhoeddus gyda’r Awdurdod fel yr addawyd bore ’ma, ac na fydd mwy o benderfyniadau hollbwysig y tu ôl i ddrysau caeëdig.”
‘Agored i unrhyw gynnig’
Daeth tua ugain o bobol ynghyd ger Plas Tan y Bwlch heddiw i alw ar yr awdurdod i beidio â’i werthu i gwmni preifat.
Mae’r ymgyrchwyr yn awyddus i’w weld yn mynd i ddwylo cwmni cymunedol, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod nhw wedi bod mewn trafodaethau gydag un cwmni cymunedol eisoes.
Wrth ateb cwestiynau gan aelodau’r cyhoedd, dywedodd Iwan Jones, prif weithredwr dros dro yr Awdurdod, fod angen gwario £3m ar yr adeilad dros y degawd nesaf, yn ôl BBC Cymru Fyw.
Ar hyn o bryd, mae’r plas yn costio tua £250,000 y flwyddyn i’w redeg.
Mae’r safle i gyd yn 103 erw, sy’n cynnwys nifer o adeiladau allanol, cynllun hydro, coedlan a llyn, sy’n boblogaidd â cherddwyr cŵn a theuluoedd lleol.
Dywed Iwan Jones eu bod nhw’n “agored i unrhyw gynnig”, ond fod yr arwerthwyr Carter Jones yn credu mai cynnig y plas a’r gerddi fel un eiddo yw’r opsiwn sydd fwyaf addas.
Mae enwau’r rhai sydd wedi gwneud cynnig i brynu’r plasty’n cael ei gadw’n gyfrinachol.
Mewn datganiad, dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y bydd yr oedi’n caniatáu cyfleoedd i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael yn fwy trylwyr.
“Mae hwn yn benderfyniad pwysig i’r Awdurdod,” medd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd yr Awdurdod.
“Rydym wedi gwrando ar bryderon y cyhoedd a’n cymunedau, ac mae’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i gysidro dyfodol Plas Tan y Bwlch.
“Rydym wedi cytuno i ystyried pob opsiwn posibl ac i ymgysylltu gyda’r gymuned ac i weithio’n agos gyda darpar brynwyr i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer yr adeilad hanesyddol hwn.”
‘Cadw at yr ethos o gydweithio’
Mae’r Aelod o’r Senedd a’r Aelod Seneddol lleol wedi cysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod nhw o’r farn fod angen i Blas Tan y Bwlch aros fel “adnodd cyhoeddus”.
Mewn llythyr gafodd ei yrru ddydd Llun (Medi 10), dywed Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts fod nifer o bobol ar draws Cymru wedi cysylltu â nhw’n mynegi eu pryder am gau’r plas.
“Rydym yn deall y wasgfa ariannol sylweddol y mae’r Parc yn ei hwynebu, a’r ffaith nad ydy’r Parc wedi derbyn setliad teg o du Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn, sydd wedi arwain at benderfyniadau anodd yn cael eu gwneud,” medden nhw.
“Serch hynny, rydym yn gadarn o’r farn bod angen i Blas Tan y Bwlch aros fel adnodd cyhoeddus.
“Mae gan y Plas hanes hir a balch fel canolfan sydd wedi hybu bywyd sifig a dealltwriaeth eang mewn sawl maes dros y degawdau.
“Mae’n grud i rai o’n sefydliadau pwysicaf sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad cyfoethog i ddealltwriaeth a bywyd y genedl.
“Byddai colli’r adnodd yma felly yn ergyd drom.”
Ychwanega’r llythyr ei fod yn adeilad “eiconig” sy’n haeddu cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd, a’u bod nhw’n annog yr Awdurdod i ddal rhag ei werthu ar y farchnad agored eto.
Yn hytrach, maen nhw am iddyn nhw estyn at y gymuned leol er mwyn ceisio canfod prynwyr lleol fyddai’n ei ddefnyddio at ddibenion cymunedol a chyhoeddus fel menter gymunedol neu gydweithredol.
“Byddai cael partneriaeth â menter o’r fath yn bluen yn het y Parc ac yn cadw at ethos y Parc o gydweithio efo’r cymunedau sydd o fewn ei ffiniau.”